Cryfderau COVID-19: Lledaenu’n gyflym, yn aml heb ei ganfod
Gwendid COVID-19: Profi i adnabod achosion positif
Gallwn ni i gyd wneud ein rhan i leihau lledaeniad Covid-19. Gwisgo masg, golchi dwylo ac ymbellhau’n gymdeithasol yw rhai o’r camau y gallwn eu cymryd i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel. Gall profi hefyd leihau lledaeniad y feirws.
Gall profi helpu pobl i ganfod a ydynt wedi’u heintio â Covid-19 ac mewn risg o ledaenu’r haint i eraill. Mae cael prawf positif yn gynnar yn y salwch yn galluogi unigolion i ynysu, gan leihau’r tebygolrwydd y byddant yn heintio eraill a’u caniatáu nhw i geisio triniaeth yn gynt.
Mae unrhyw un sy’n dod i gyswllt agos â rhywun sydd â Covid-19 mewn risg gynyddol o gael ei heintio ei hun, a heintio eraill o bosibl. Gall olrhain cysylltiadau helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
Mae olrhain cysylltiadau yn dechrau drwy adnabod pawb y mae unigolyn sydd newydd gael diagnosis o Covid-19 wedi bod mewn cyswllt â nhw ers iddo fod yn heintus. Yn achos Covid-19, gall unigolyn fod yn heintus 48 i 72 awr cyn iddo ddechrau profi symptomau.
Caiff y cysylltiadau eu hysbysu am eu hamlygiad. Efallai y dywedir wrthynt pa symptomau i gadw llygad allan amdanynt, eu cynghori i ynysu am gyfnod o amser, a cheisio sylw meddygol petai ei angen os byddant yn profi symptomau.
Drwy wybod a deall mae’n haws ymladd yn erbyn y gelyn.
Dilynwch holl ganllawiau diogelwch Covid-19 y Llywodraeth https://gov.wales/coronavirus
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Mesurau Atal Haint Covid-19 yn Mesurau Atal Heintiau Covid-19 wedi'u Esbonio - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru).
Gallwn ddod drwy hyn drwy weithio gyda’n gilydd.