Neidio i'r prif gynnwy

Lolfa Asesu Gymunedol Newydd yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Croesawi Claf Cyntaf

Mae uned beilot newydd a gynlluniwyd i wella profiad y claf a chefnogi rhyddhau diogel ac amserol o'r ysbyty wedi croesawu ei chlaf cyntaf yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.

Mae'r Lolfa Asesu Gymunedol (CAL) yn rhan o waith parhaus y Bwrdd Iechyd i gyflawni'r Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Achosion Brys ac yn cefnogi menter trosglwyddo ambiwlansys Eich Claf Nesaf.

Mae'r CAL yn dwyn ynghyd dri thîm sefydledig — y Tîm Therapi Osgoi Derbyniadau Cymunedol (CAATT), Cartref yn Gyntaf, ac Ymateb Cyflym Eiddilwch (RFR) — sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Hwb Ymateb Drws Blaen (FDRH) newydd. Mae'r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod claf yn cael eu gweld gan y bobl gywir, ar yr adeg gywir, yn y lle cywir, gan helpu i atal derbyniadau diangen a gwella llif y claf.

Mae'r lolfa newydd wedi'i chreu o fewn ôl troed presennol Ysbyty Athrofaol y Faenor ac mae'n darparu lle tawel i ffwrdd o'r Adran Achosion Brys (ED), yr Uned Feddygol Acíwt (AMU) a'r Uned Asesu Lawfeddygol (SAU) brysur. Mae'n cynnig amgylchedd lle gall cleifion nad oes angen ymyrraeth feddygol acíwt arnynt fwyach dderbyn asesiad pellach i benderfynu ar eu hanghenion ehangach cyn dychwelyd adref.

Esboniodd y Nyrs Ymgynghorol, Zoe Carter, sy'n rhan o'r tîm sy'n darparu gofal yn yr uned newydd, fod y Lolfa Asesu Gymunedol wedi'i chynllunio i hyrwyddo annibyniaeth a chefnogi rhyddhau diogel. Dywedodd: “Mae'r Lolfa'n rhoi'r lle inni gynnal asesiadau ac ymyriadau ar gyfer claf sy'n sefydlog yn feddygol ond sydd angen asesiad pellach o hyd cyn y gallant ddychwelyd adref yn ddiogel. Mae'n ddull cydgysylltiedig rhwng ein timau cymunedol ac ysbyty, sy'n golygu y gallwn sicrhau bod claf yn cael y gofal cywir yn y lleoliad cywir.”

Y claf cyntaf i gael gofal yn y Lolfa Asesu Gymunedol newydd oedd Pauline Kennedy, 85 oed. Aeth Pauline, sy'n byw gyda chlefyd esgyrn dirywiol, i'r Adran Achosion Brys ar ôl ei chael hi'n anodd iawn cario ei phwysau ei hun wrth gerdded. Ar ôl cael ei hadolygu, cafodd ei throsglwyddo i'r lolfa newydd lle cafodd asesiad pellach gan yr Hwb Ymateb Drws Blaen (FDRH) ac adolygiad o'i meddyginiaeth lleddfu poen.

Diolch i'r gofal a ddarparwyd, llwyddodd Pauline i ddychwelyd adref yr un diwrnod gyda'i merch, sy'n helpu i ofalu amdani yn eu cartref teuluol.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Pauline: "Rwy'n ddiolchgar iawn am y gofal a'r caredigrwydd a ddangoswyd i mi. Mae'r staff yn wych ac rwy'n falch iawn o allu mynd adref yn gyflym."