Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â'n tîm cyfeillgar o Swyddogion Amgylcheddau Di-fwg

Hoffai BIPAB gyflwyno ei dîm newydd o Swyddogion Amgylcheddau Di-fwg sy'n gweithio ar draws ei ysbytai. Rôl y tîm yw helpu i gadw tiroedd yr ysbytai’n ddi-fwg, hyrwyddo amgylcheddau gofal iach a glân a helpu i gefnogi ysmygwyr i roi'r gorau i ysmygu.

 

Mae hyn yn rhan o ymgyrch gydgysylltiedig i sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â'n Polisi Amgylcheddau Di-fwg a'r gyfraith ddi-fwg newydd sy’n gwneud ysmygu ar diroedd ysbytai ledled Cymru’n anghyfreithlon

 

Mae’r tîm wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y Polisi a'r gyfraith ddi-fwg newydd. Gall hefyd eich helpu i wneud y cam tuag at roi’r gorau i ysmygu drwy roi manylion ein gwasanaethau Helpa Fi i Stopio i chi.

 

Fodd bynnag, os byddwch yn ysmygu ar diroedd ein hysbytai, gallai  Swyddog Amgylcheddau Di-fwg ddod atoch i ofyn i chi roi'r gorau i ysmygu neu symud oddi ar y safle os byddwch am barhau.

 

Mae ysmygu ar diroedd ysbytai yn anghyfreithlon a gallai arwain at ddirwy o £100.

 

Diolch am ein helpu i ddod yn amgylchedd di-fwg drwy beidio ag ysmygu ar unrhyw un o diroedd ein hysbytai. Drwy beidio ag ysmygu yn y mannau hyn, byddwch yn osgoi niweidio pobl sy'n agored i niwed a byddwch yn helpu i gadw ein hysbytai'n lleoedd glân a diogel i bawb sy'n eu defnyddio.