Fe'ch gwahoddir i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar dydd Mercher 24 Medi 2025 am 18:00, lle byddwn yn cyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2024/25.
Wrth ymuno â’r cyfarfod hwn, cewch gyfle i glywed am ein cynnydd a’n perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd cyfleoedd hefyd i chi ofyn cwestiynau i aelodau ein Bwrdd. Byddem yn gofyn i chi, lle bo modd, gyflwyno'ch cwestiynau ymlaen llaw. Fodd bynnag, bydd cyfleoedd hefyd i ofyn cwestiynau yn ystod y cyfarfod.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru i fynychu’r cyfarfod, ewch i: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025