Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno Llythyrau Digidol a Nodiadau Atgoffa Apwyntiadau drwy'r Porth Cleifion

Rydym yn falch o rannu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) yn symud tuag at ddulliau cyfathrebu mwy effeithlon a chynaliadwy trwy gyflwyno llythyrau digidol a negeseuon testun atgoffa gwell trwy ein Porth Cleifion.

Beth sy'n newid?

Bydd cleifion yn dechrau derbyn rhai llythyrau ysbyty yn ddigidol yn hytrach nag drwy'r post. Bydd hyn yn caniatáu mynediad cyflymach a mwy cyfleus at wybodaeth bwysig am apwyntiadau a gofal ysbyty.

Bydd cleifion yn derbyn neges destun gan 'ABUHB NHS', sy'n cynnwys dolen ddiogel i weld eu llythyr digidol drwy'r Porth Cleifion. Bydd y neges destun yn cynnwys PIN unigryw a chyfarwyddiadau ar gyfer cyrchu'r llythyr.

 

A fydd newidiadau i nodiadau atgoffa apwyntiadau?

Rydym hefyd wedi gwella ein gwasanaeth atgoffa am apwyntiadau. Bydd cleifion nawr yn derbyn negeseuon testun atgoffa gan 'ABUHB NHS' saith diwrnod cyn eu hapwyntiad, gydag opsiynau i ailarchebu neu ganslo'n  uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau dethol.

Bydd negeseuon yn cael eu hanfon yn Gymraeg a Saesneg. Gall cleifion nodi eu dewis iaith trwy gysylltu â'r rhif ar eu llythyr neu hysbysu staff yn ystod eu hapwyntiad.

 

Sut mae cyrchu llythyrau digidol?

1.                  Cliciwch ar y ddolen yn y neges destun i agor y Porth Cleifion.

2.                  Rhowch eich dyddiad geni a'r PIN unigryw a ddarperir.

3.                  Dewiswch yr  adran Apwyntiadau i weld manylion apwyntiad a llythyrau cysylltiedig.

4.                  O'r fan honno, gall cleifion lawrlwytho llythyrau, ychwanegu apwyntiadau at eu calendr, neu reoli apwyntiadau.

 

Beth sy'n digwydd os na dderbynnir neges destun?

Os na fydd llythyr digidol yn cael ei agor o fewn 24 awr, bydd copi papur yn cael ei anfon drwy'r post yn awtomatig. Bydd cleifion sydd wedi optio allan o gyfathrebu digidol neu nad yw eu rhifau symudol wedi nodi yn parhau i dderbyn llythyrau claed fel arfer.

 

Sut mae pobl yn cofrestru ar gyfer y Porth Cleifion?

Wrth agor eu llythyr digidol cyntaf, bydd cleifion yn cael yr opsiwn i greu enw defnyddiwr a chyfrinair diogel. Mae cofrestru yn caniatáu mynediad parhaus at bob llythyr ac apwyntiad mewn un lle trwy ABUHB.nhsportal.net.

Os yw cleifion yn dewis peidio â chofrestru, gallant barhau i gael mynediad at lythyrau am hyd at 10 diwrnod ar ôl dyddiad yr apwyntiad neu ar ôl derbyn y neges, gan ddefnyddio eu dyddiad geni a'u PIN unigryw.

 

Beth yw manteision y Porth Cleifion?

Mae'r porth yn cynnig ystod o nodweddion defnyddiol, gan gynnwys:

  • Mynediad diogel, cyflym i lythyrau ac apwyntiadau ysbyty
  • Y gallu i lawrlwytho neu e-bostio copïau o lythyrau
  • Opsiynau ail-archebu neu ganslo syml
  • Yr opsiwn i ychwanegu apwyntiadau'n uniongyrchol at galendrau dyfeisiau clyfar
  • Diweddariadau traffig amser real i helpu i gynllunio teithiau

 

Beth am ddiogelwch a phreifatrwydd?

Mae'r Porth Cleifion yn gwbl ddiogel ac wedi'i amgryptio, gan sicrhau cyfrinachedd cleifion ar bob cam.

Gall cleifion sy'n well ganddynt dderbyn llythyrau drwy'r post optio allan o gyfathrebu negeseuon testun ar unrhyw adeg trwy roi gwybod i'n timau archebu.

 

Ble ydw i'n mynd i gwybod mwy?

Am ragor o fanylion ac atebion i gwestiynau cyffredin, ewch i: Cyfathrebu Gofal Iechyd: Negeseuon Testun a Llythyrau gan y Bwrdd Iechyd