Yn dilyn cyfnod o drawsnewid y gwasanaeth Adferiad ôl-covid, rydym bellach wedi cyflwyno’r Gwasanaeth Rheoli Symptomau i’n Bwrdd Iechyd.
Mae hwn yn wasanaeth pob oed ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc, sy'n darparu cymorth i bobl sy'n byw gyda Covid Hir, Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, Ffibromyalgia a salwch ôl-feirws eraill.
Gall plant a phobl ifanc cael mynediad at y gwasanaeth yn dilyn atgyfeiriad gan glinigwyr gofal sylfaenol a brysbennu gan dimau pediatrig o fewn gwasanaethau gofal eilaidd. Gall oedolion gael cymorth heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu asesiad unigol. Mae'r gwasanaeth yn cynnig sawl sesiwn addysgol am y cyflyrau penodol a sesiynau cyngor rheoli am symptomau a rennir ar draws y cyflyrau. Cynigir y sesiynau hyn yn rhithwir neu mewn lleoliadau cymunedol, ynghyd â fersiynau wedi’u recordio y gallwch eu gwylio neu wrando arnynt yn eich amser eich hun.
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Rheoli Symptomau a sut i geisio cymorth, ewch i: bipab.gig.cymru/ysbytai/a-y-o-wasanaethau/gwasanaeth-rheoli-symptomau/