Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwynwyd Menter Newydd ar gyfer Perthnasau i Ymholi Am Gleifion yn ein hysbytai

Hoffwn eich hatgoffa bod gennym ni Teleffonwyr ym mhob un o'n prif safleoedd ysbytai sy'n bwynt cyswllt i alwyr sy'n ymholi am ddiweddariadau ar berthnasau.

Rydym yn ymwybodol o'r anawsterau sylweddol y mae'r cyhoedd yn eu hwynebu wrth geisio cysylltu â'n wardiau yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn. Ymddiheurwn yn ddiffuant am y gofid y mae hyn yn ei achosi. Hoffem eich sicrhau ein bod yn recriwtio staff ychwanegol i gefnogi’r wardiau. Wrth i ni recriwtio, rydym wedi sicrhau cymorth teleffoni ychwanegol ym mhob un o'n prif safleoedd ysbyty, 7 diwrnod yr wythnos.

Bydd y Teleffonwyr yn gweithredu fel cyswllt rhwng galwyr a'r wardiau. Os gall y Teleffonydd ateb eich ymholiad yn y fan a’r lle, byddant yn gwneud hynny. Er na fyddant yn gallu trafod gwybodaeth glinigol, byddant yn gallu trosglwyddo negeseuon i'r wardiau a rhoi gwybod i alwyr pryd y bydd y ward yn ffonio galwyr yn ôl.

Gweler isod y rhifau i ffonio’r ysbyty lle mae'r ward wedi'i lleoli. Wrth holi am eich perthynas neu ffrind, parhewch i ffonio’r ward yn gyntaf. Os na lwyddwch i gysylltu â’r ward, gallwch ffonio’r llinellau pwrpasol hyn rhwng 9am a 5pm (7 diwrnod yr wythnos, ag eithrio Gwyliau Banc)