Neidio i'r prif gynnwy

Gwisgo masgiau a chyfyngiadau o ran ymweld wedi'u hailgyflwyno ar draws ein hysbytai

Dydd Mawrth 2il Rhagfyr 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ailgyflwyno gwisgo masgiau ac wedi tynhau rheolau ymweld ar draws ei safleoedd ysbyty yn dilyn cynnydd sydyn mewn afiechydon y gaeaf a chyfraddau heintiau.

Yn ôl ym mis Hydref 2025, oherwydd lefelau cynyddol o salwch yn ein hysbytai, roedd angen i ni gyflwyno gwisgo masgiau a gosod cyfyngiadau o ran ymweld. Bu modd i ni lacio’r cyfyngiadau hyn wrth i’r lefelau salwch ostwng, ond ar hyn o bryd mae cynnydd arall mewn heintiau yn golygu bod angen i ni ailgyflwyno’r mesurau hyn er mwyn cadw pobl yn ddiogel.

Nid Gwent yn unig sy’n wynebu’r sefyllfa hon. Mae rhagofalon tebyg yn cael eu cyflwyno ar mewn rhannau eraill o Gymru a'r DU wrth i wasanaethau iechyd ymateb i ledaeniad cynnar a chyflym gwahanol fathau o salwch y gaeaf mewn cymunedau ac ysbytai.

Gwisgo masgiau yn ein hysbytai
O heddiw ymlaen, mae’n rhaid i'r holl staff, cleifion ac ymwelwyr wisgo masgiau wyneb wrth fynd i mewn i safleoedd ysbytai, wardiau, Adrannau Brys, Unedau Mân Anafiadau (MIUs) a phob lleoliad clinigol. Bydd masgiau ar gael wrth fynedfeydd wardiau ac ardaloedd clinigol.

Daw'r penderfyniad wrth i ysbytai ledled y rhanbarth brofi mwy o achosion o ffliw, COVID-19 a mathau eraill o salwch anadlol. Mae'r mesurau hyn yn hanfodol er mwyn amddiffyn cleifion sy'n agored i niwed a lleihau'r risg o drosglwyddo.

Ymweld gyda Phwrpas
Ochr yn ochr â gwisgo masgiau, mae'r Bwrdd Iechyd yn gofyn i bobl ddod â llai o bobl gyda nhw pan fydd angen iddynt ddod i’n safleoedd ac osgoi ymweld os oes ganddynt symptomau salwch. Os yw wardiau neu faeau ar gau oherwydd achosion, dim ond am resymau penodol y caniateir i bobl ymweld â chleifion ynddynt, gan gynnwys:

  • Ymweld â rhywun sy'n ddifrifol wael neu ar ddiwedd eu hoes
  • Cefnogi claf sydd angen cymorth
  • Mynychu yn rhinwedd rôl gofalwr
  • Bod yn bresennol ar gyfer trafodaethau pwysig am ofal, triniaeth neu ryddhau o’r ysbyty

Cadw eich hun ac eraill yn ddiogel

Mae'r Bwrdd Iechyd yn annog pawb i chwarae eu rhan wrth i ni ymdrechu i gadw cleifion a chymunedau'n ddiogel trwy:

😷 Wisgo masg wrth fynychu unrhyw safle ysbyty
🧼 Golchi dwylo'n rheolaidd
💉 Cael eich brechlyn ar gyfer y ffliw, RSV a phigiad atgyfnerthu COVID-19 os ydych yn gymwys

Mae'r mesurau hyn yn hanfodol er mwyn amddiffyn cleifion a staff yn ystod misoedd y gaeaf. Hoffem ddiolch i bawb am eu cydweithrediad wrth helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.