Neidio i'r prif gynnwy

Delio â Chanlyniadau Arholiadau - i Fyfyrwyr a'u Teuluoedd

 

Gall aros i glywed am ganlyniadau arholiadau a chynllunio eich camau nesaf fod yn gyfnod cyffrous ond llawn straen i bobl ifanc a'u teuluoedd.

Mae llawer o adnoddau defnyddiol i helpu pobl ifanc a’u teuluoedd i baratoi ar gyfer canlyniadau arholiadau a delio â nhw, ac rydym wedi eu crynhoi isod.

   Rwy'n fyfyriwr                Rwy'n aelod o deulu myfyriwr

Cyngor i Fyfyrwyr

 

Paratoi ar gyfer Diwrnod Canlyniadau


Dilynwch ein pum awgrym ar gyfer diwrnod canlyniadau llwyddiannus, waeth beth fo’r canlyniad:

1 - Byddwch yn Bositif - Ceisiwch dawelu meddyliau negyddol. Gall rhagweld y canlyniad gwaethaf eich poeni yn ddiangen.

2 - Amlinellwch Amcanion - Beth hoffech chi ei gyflawni gyda'ch canlyniadau? A allwch chi gyrraedd y nodau hyn hyd yn oed os nid yw'ch canlyniadau yr un fath â beth yr oeddwch yn ei ddisgwyl?

3 - Cynlluniwch Ddewis Amgen - A allwch chi gyflawni'r hyn yr oeddech ei eisiau mewn ffordd wahanol? Allech chi fynd lawr llwybr gyrfa hollol wahanol? Dilynwch ein cyngor gyrfaoedd.

4 - Peidiwch ag Aros yn y Gorffennol - Mae eich canlyniadau eisioes wedi'u penderfynu. Stopiwch feddwl am bob arholiad- ni fydd yn newid unrhyw beth a bydd yn gwneud i chi deimlo'n waeth!

5 - Byddwch yn Garedig i'ch Hun - Bu'r ddwy flynedd ddiwethaf yn llawn aflonyddwch. Cofiwch hynny. Gwnaethoch eich gorau a dyna'r cyfan sy'n bwysig.

 

 

 

 

 

 

 

Ymdopi â Chanlyniadau Arholiadau

 

Y Camau Nesaf - Ystyried Gyrfa mewn Gofal Iechyd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhowch Gynnig ar Brentisiaeth

 

Mae gennym ni gyfleoedd cyffrous i Brentisiaid Lefel Mynediad sydd ar gael o fewn rolau Gweinyddiaeth, Cyfleusterau, Cyllid a Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd ar draws ein gwasanaethau.

Ydych chi'n awyddus i ddysgu wrth ennill cyflog? Yn chwilio am gyfle a fydd yn cychwyn eich gyrfa? Mae rôl y brentisiaeth yn cynnig profiad ymarferol o weithio yn un o safleoedd ein Bwrdd Iechyd, gyda gwaith cyflogedig a’r fantais o astudio cymhwyster NVQ lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes, Gofal Iechyd Clinigol, Cyfleusterau neu AAT ar yr un pryd.

Trwy gydol eich hyfforddiant, byddwch yn cael y gefnogaeth a'r arweiniad sydd eu hangen arnoch i lwyddo!

Bydd angen i chi fod yn ymroddedig i gwblhau'r NVQ Lefel 2/ AAT a bod â diddordeb mewn gofal iechyd.

 

Clywch gan rai o’n carfan gyntaf o Brentisiaid isod..

 

Ar hyn o bryd, mae Clara yn ymgymryd â rôl Prentisiaeth Weinyddol o fewn y Tîm Recriwtio.

Dywedodd Clara“Mae fy rôl yn cynnwys recriwtio a chynefino Imiwneiddwyr a Chymorth Imiwneiddio i Ganolfannau Brechu Torfol ledled de-ddwyrain Cymru. Credaf fod y brentisiaeth hon wedi fy helpu i ennill profiad sylweddol yn barod o fewn BIPAB. Rwyf wedi dysgu cymaint yn ystod cyfnod byr ac rwy'n edrych ymlaen at ddysgu llawer mwy."

Prentis Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yw Mehreen yn nhîm Uned Mân Anafiadau Ysbyty Brenhinol Gwent.

“Rwy’n newydd i ofal iechyd ac rwyf eisoes wedi magu llwyth o sgiliau. Mae’r GIG yn lle gwych i weithio, gyda llu o brofiadau a chyfleoedd gyrfa ar gael. Rwyf wrth fy modd yn helpu pobl a gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.” Meddai Mehreen.

 

 

Mae Sarah yn Brentis Weinyddiaeth yn y tîm Pediatrig.

Dywedodd Sarah“Rwyf eisoes wedi cael dechrau mor gadarnhaol i’r brentisiaeth hon ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau a phrofiadau wrth i mi barhau.”

 

Mae Grace yn Brentis Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

“Credaf ei fod yn gyfle gwych i bobl gael blas ar amgylchedd gwaith nyrsio,” meddai Grace.

 

 

Cyngor i Deuluoedd