Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth ddod o hyd i frechlyn COVID-19 diogel ac effeithiol

Mae brechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca wedi ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn dilyn treial byd-eang y bu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chyfranogwyr o Gymru ran allweddol ynddo.

Bu cydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a'r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yng ngham 2/3 y treial brechlyn a noddwyd gan Brifysgol Rhydychen ac a ariannwyd gan CEPI (Coalition for Epidemic Preparedness Innovations) ac UK Research and Innovation.

Recriwtiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bron i 450 o gyfranogwyr i dreial brechlyn COVID-19 Grŵp Brechlyn Rhydychen. Gwahoddwyd gwirfoddolwyr 18 oed a hŷn i gymryd rhan yn y treial. Roedd llawer o'r cyfranogwyr o leoliadau iechyd a gofal, gan gynnwys staff mewn ysbytai, practisau meddygon teulu, proffesiynau fferyllol, ffisiotherapi, gofal cymunedol a phroffesiynau anghlinigol eraill mewn gofal eilaidd yr ystyriwyd eu bod mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r Coronafeirws.

Darllenwch yr eitem newyddion lawn.