Neidio i'r prif gynnwy

Carol, Ymgynghorydd Bwydo ar y Fron, yn derbyn gwobr am 60 mlynedd o wasanaeth i'r GIG

Dydd Mercher 27 Gorffennaf 2022

Mae Carol Walton, Ymgynghorydd Bwydo ar y Fron sy'n rhan annatod o'r Bwrdd Iechyd, wedi derbyn gwobr am 60 mlynedd o wasanaeth i'r GIG.

Yn gynharach heddiw, bu Carol yn bresennol mewn Cyfarfod Bwrdd cyhoeddus lle cyflwynodd y Cadeirydd, Ann Lloyd, wobr gwydr unigryw a thusw o flodau iddi i gydnabod ei chyflawniad. Daeth Carol ag ambell beth bach i gofio gyda hi i ddangos i aelodau'r Bwrdd.

"Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwahoddiad i fod yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd Iechyd i dderbyn y wobr hon. Roedd yn bleser dangos fy nghofnod nyrsio iddynt, fy Mathodyn Nightingale a'r cap ffril yr oeddwn yn ei wisgo pan ddechreuais nyrsio 60 mlynedd yn ôl", meddai Carol, a ddechreuodd weithio fel nyrs ar 30 Mehefin 1962 yn St Thomas' Hospital, Llundain, cyn symud i Gaeredin ym 1966 i hyfforddi fel bydwraig.

Wrth fyfyrio ar ei gyrfa yn y GIG, dywedodd Carol: "Mae'n anodd credu bod amser wedi hedfan heibio mor gyflym, ac rwyf wedi bod mor lwcus - rwyf wedi mwynhau pob rhan o fy ngwaith.

"Rwyf wedi bod yn gweithio gyda mamau a'u babanod yn ardal Gwent ers 37 o flynyddoedd. Dw i ddim yn bwriadu ymddeol ar hyn o bryd, rwyf wrth fy modd yn fy swydd."