Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Cleifion ar gyfer Streic Gwasanaeth Ambiwlans Cymru - 23 Ionawr 2023

Dydd Gwener 20 Ionawr 2023

Ar Ddydd Llun (23 Ionawr), mae streiciau diwydiannol yn cael ei gymryd gan undeb llafur sy’n cynrychioli staff yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Bydd y cam hwn yn cael effaith sylweddol ar allu’r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i alwadau, a gallai hefyd achosi oedi i rai o’n gwasanaethau gofal brys.

Dylai cleifion ffonio 999 dim ond os ydynt yn ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol a bod perygl i fywyd. Bydd ambiwlansys yn dal i allu ymateb yn y sefyllfaoedd hyn, ond efallai mai dim ond lle mae perygl uniongyrchol i fywyd, sy'n debygol o barhau am gyfnod y streic. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y gofynnir i rai cleifion wneud trefniadau eraill, megis gwneud eu ffordd eu hunain i'r ysbyty neu ddefnyddio gwasanaeth arall. Cysylltir yn uniongyrchol â chleifion y mae eu hapwyntiadau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw yn cael eu heffeithio.

Os oes gennych anaf neu salwch difrifol iawn, megis amheuaeth eich bod yn dioddef strôc, ataliad y galon neu waedu difrifol, dylech fynd yn syth i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.

Hoffwn ni i chi a'ch anwyliaid gadw mor iach â phosibl y Gaeaf hwn - dewch o hyd i'n hawgrymiadau ar gyfer cadw'n iach dros gyfnod y gaeaf.

Os oes angen gofal brys arnoch, cofiwch fod yna nifer o ffyrdd o gael mynediad at hyn:

GIG 111 Cymru

Gwefan GIG 111 Cymru ddylai fod eich man cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth iechyd. Gallwch hefyd wirio'ch symptomau gan ddefnyddio eu Gwiriwr Symptomau Ar-lein.

Eich Fferyllfa Leol

Gall eich fferyllydd lleol ddarparu cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau cyffredin, gan gynnwys dolur gwddf, Doluriau Annwyd a diffyg traul. Dysgwch fwy am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich fferyllfa leol.

Eich Practis Meddyg Teulu

Mae eich Practis Meddyg Teulu lleol ar agor yr wythnos hon a gallant helpu os oes angen gofal brys arnoch. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r streic, mae practisau meddygon teulu yn disgwyl cynnydd yn nifer y galwadau gan gleifion sydd angen triniaeth a chyngor brys. Felly, efallai y bydd rhai meddygfeydd yn ystyried darparu apwyntiadau i’r cleifion hynny sydd â’r anghenion iechyd mwyaf brys a difrifol yn ystod cyfnod y streic yn unig.

Unedau Mân Anafiadau

Gall ein Hunedau Mân Anafiadau drin mân anafiadau fel ysigiadau, mân losgiadau, bysedd/bysedd traed wedi’u dadleoli, a chyrff estron yn y llygaid a’r clustiau.

Mae'r Unedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent (Casnewydd) ac Ysbyty Nevill Hall (Y Fenni) ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, gydag Uned Mân Anafiadau Ysbyty Ystrad Fawr (Ystrad Mynach) ar agor 9am tan hanner nos. Mae'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Aneurin Bevan (Glyn Ebwy) ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb-5yp. Dysgwch fwy am ein Hunedau Mân Anafiadau.

 

Mae manylion llawn streic y GMB ar gael ar wefan Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.