Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau i Ofalu am Went Gydol y Gaeaf – Rydyn ni Gyda'n Gilydd!

Dydd Iau 1 Rhagfyr 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cydweithio â'r cyhoedd a sefydliadau partner i gadw Gwent yn iach y gaeaf hwn.

Gyda'r tywydd oerach a thymor y Nadolig yn achosi cwympiadau ac anafiadau, ynghyd â lledaeniad bygiau'r gaeaf, firysau a ffliw, gall y nifer cynyddol o gleifion sydd angen gofal a thriniaeth arwain at amseroedd aros hirach, ysbytai llawn, a phwysau pellach ar wasanaethau gofal iechyd drwyddi draw system y GIG.

Mae gan y Bwrdd Iechyd gynllun i helpu gwasanaethau'r GIG lleol drwy'r gaeaf, gan weithio gyda sefydliadau partner ledled Gwent i gadw pobl yn iach. O ganlyniad, mae nifer o fentrau newydd yn cael eu cyflwyno i helpu i leddfu’r pwysau ar eu gwasanaethau dros y misoedd nesaf – ac mae tudalen we newydd wedi’i lansio, sy’n llawn cyngor ar sut i fynd drwy gyfnod y gaeaf yn ddiogel ac yn gyfforddus.

Dywedodd Dr James Calvert, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Gwyddom, gyda’r pwysau presennol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, ein bod yn wynebu ein gaeaf prysuraf erioed eleni. Gwyddom hefyd fod hwn yn gyfnod anodd iawn i bobl ac mae angen inni i gyd gydweithio i fynd drwy fisoedd y gaeaf.

“Gall trigolion lleol ein helpu ni drwy ofalu amdanynt eu hunain a’u hanwyliaid y gaeaf hwn. Gwyddom fod aelodau bregus o’n cymunedau yn fwy agored i gwympiadau ac effeithiau’r tywydd oerach yn ystod misoedd y gaeaf, felly gallai cadw llygad ag aelodau hŷn o’r teulu a chymdogion eu hatal rhag cael niwed a hefyd helpu i leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau GIG gwerthfawr.”

Mae cyngor y Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnwys paratoi ar gyfer y tywydd oerach drwy gadw cypyrddau meddyginiaeth yn llawn o holl hanfodion y gaeaf, yn ogystal â dewis hunanofal yn y cartref pan fyddwch yn teimlo'n sâl er mwyn osgoi lledaenu bygiau'r gaeaf.

Pan fydd angen cymorth meddygol arnoch, gallai edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael hefyd wneud gwahaniaeth mawr i faint o amser y mae'n ei gymryd i gleifion dderbyn y gofal cywir ar eu cyfer.

Dywedodd Dr Calvert: “Mae hefyd yn hanfodol bwysig i'r cyhoedd ystyried yn ofalus pa wasanaeth y maent yn ei ddewis os oes angen ein cymorth arnynt, fel y gallwn sicrhau ein bod yn darparu gofal amserol i'r rhai sydd ei angen.

“Dylai unrhyw un sy’n ansicr ble i fynd am gymorth meddygol wirio eu symptomau ar-lein gyda Gwiriwr Symptomau GIG 111 Cymru neu ffonio 111 am gymorth a chyngor brys.”

Yn ogystal â dewis y gwasanaeth cywir, y tro cyntaf, gall trigolion lleol hefyd helpu i leihau amseroedd aros a rhyddhau gwelyau trwy gefnogi eu hanwyliaid i ddychwelyd adref o'r ysbyty cyn gynted ag y byddant yn ddigon iach i gael eu rhyddhau.

Dywedodd Dr Calvert : “Mae yna hefyd nifer o gleifion yn ein hysbytai sydd, er eu bod yn feddygol ffit, yn aros am ryw fath o ofal gartref cyn y gallant adael. Gallai unrhyw gymorth y gall perthnasau ac anwyliaid ei gynnig i’r cleifion hyn eu helpu i ddychwelyd adref cyn y Nadolig a rhyddhau rhai gwelyau y mae mawr eu hangen yn ein hysbytai.”

 

Cofiwch gadw llygad ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd yn yr wythnosau nesaf i gael gwybodaeth am fentrau a gwasanaethau newydd cyffrous i gynnig y safonau gofal gorau posibl i bobl leol.

 

Mae rhagor o wybodaeth am Gofalu am Went Gydol Y Gaeaf ar gael yma: Gofalu am Went Gydol y Gaeaf - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)