Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd o 79% mewn Triniaeth Canser y Croen: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Annog Trigolion Gwent i Gadw'n Ddiogel yn yr Haul yr Haf Hwn

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cyhoeddi rhybudd cryf i drigolion ledled Gwent yr haf hwn, wrth i ffigyrau newydd ddatgelu cynnydd o 79% mewn triniaeth canser y croen ers 2019.

Mae canser y croen, gan gynnwys melanoma - y ffurf fwyaf difrifol - ar gynnydd.  Gall dim ond un llosg haul bob dwy flynedd dreblu'r risg o'i ddatblygu.

Fodd bynnag, gellir osgoi'r mwyafrif helaeth o achosion. Mae ymchwil yn dangos bod 86% o ganserau croen yn cael eu hatal trwy gamau diogelwch haul syml ond hanfodol.

"Rydym wedi gweld cynnydd o 79% yn nifer y bobl sy'n cael eu trin ar gyfer canser y croen yng Ngwent, sy'n bryderus iawn," meddai Bernadette Tenorio, Prif Nyrs Arbenigol Canser y Croen Macmillan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

"Gall canser y croen effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran neu fath o groen, felly mae'n hanfodol bod pawb yn cymryd camau i amddiffyn eu hunain. Mae hynny'n golygu ail-rhoi eli haul sbectrwm eang yn rheolaidd gydag o leiaf SPF 30; gwisgo hetiau, llewys hir a sbectol haul sy'n amddiffyn yn erbyn UV; a cheisio cysgodi, yn enwedig rhwng 11am a 3pm pan mae'r haul ar ei gryfaf. Gall un llosg haul drwg gael canlyniadau gydol oes - gall amddiffyniad cynnar achub bywydau."

Mae'r Bwrdd Iechyd yn annog pawb yng Ngwent i ddilyn yr awgrymiadau hanfodol hyn i amddiffyn eu hunain rhag difrod gan yr haul, yn ogystal â chymryd gofal ychwanegol i amddiffyn plant, gan fod eu croen yn arbennig o agored i niwed.

Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw llosg haul yn digwydd dramor yn unig - gall niwed i'r croen ddigwydd yma yng Nghymru, hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog.