Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad y Bwrdd Iechyd ar Brinder Sment Esgyrn Llawfeddygaeth Orthopedig Byd-eang

Dydd Iau 19eg Chwefror 2026

Fel yr adroddwyd yn y newyddion cenedlaethol, mae problem gyflenwi byd-eang ar hyn o bryd gyda sment esgyrn a ddefnyddir mewn llawdriniaeth orthopedig ar gyfer cluniau, ysgwyddau a phen-gliniau, sy'n arwain at brinder byd-eang y disgwylir iddo bara am o leiaf ddau fis.

Rydym yn gweithio'n agos gyda Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru, ynghyd â Llywodraeth Cymru, i reoli'r sefyllfa hon.

Gan fod yn rhaid i ni flaenoriaethu'r achosion mwyaf brys yn glinigol a diogelu ein cyflenwad sment sy'n weddill ar gyfer claf trawma ac achosion brys, mae'n anffodus y bydd y prinder hwn yn arwain at ganslo neu oedi llawdriniaethau dewisol dros yr wythnosau nesaf.

Rydym yn gofyn i gleifion beidio â chysylltu â ni i ofyn a yw eu llawdriniaeth yn mynd rhagddi - bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu'n uniongyrchol ag unrhyw un y mae ei lawdriniaeth ddewisol wedi'i heffeithio.

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achoswyd, fodd bynnag, mae'r amgylchiadau hyn y tu hwnt i'n rheolaeth. Byddwn yn darparu diweddariadau pellach cyn gynted ag y bydd gennym unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Yn y cyfamser, rydym hefyd yn atgoffa trigolion i fod yn ofalus i osgoi llithro, baglu a chwympo, ac i gadw llygad ar anwyliaid agored i niwed er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n mentro allan mewn tywydd oer, rhewllyd ac yn peryglu anafiadau.

Mae rhagor o wybodaeth am y mater cyflenwi ar gael ar wefan Cymdeithas Orthopedig Prydain: Heraeus bone cement supply issue

Mae gwybodaeth am gadw'n iach cyn llawdriniaeth ar gael yma: Gwasanaeth Cadw'n Dda - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan