Neidio i'r prif gynnwy

Dathliadau yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru

Diwrnod Aer Glân Hapus! A llongyfarchiadau i Jenna Stevens, enillydd y wobr Hyrwyddwr Cynaliadwyedd a chyd-aelodau o’r tîm datgarboneiddio a gyrhaeddodd y rhestr fer am eu prosiectau yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru yn ddiweddar.

Dywedodd Jenna: “Rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy enwebu a’m dewis ar gyfer y wobr hon. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r effaith enfawr y mae Gofal Iechyd yn ei chael ar yr hinsawdd. Ni fyddai’r un o’r prosiectau rwyf wedi bod yn ymwneud â nhw wedi bod mor llwyddiannus heb gymorth fy nhîm!”