Heddiw yw Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau a Gefnogir - diwrnod i ddathlu llwyddiannau gwych y naw dysgwr sy’n cwblhau Interniaeth a Gefnogir o fewn Tîm Cyfleusterau Ysbyty Nevill Hall. Wedi’i ddarparu mewn partneriaeth â Coleg Gwent, mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i bobl ifanc ennill profiad gwaith ystyrlon, datblygu sgiliau hanfodol, a meithrin hyder wrth iddynt weithio tuag at gyflogaeth gynaliadwy a thymor hir.
Mae Interniaethau a Gefnogir yn cynnig llawer mwy na lleoliad gwaith - maent yn darparu amgylchedd strwythuredig a chefnogol sy’n helpu dysgwyr i ddeall y gweithle, darganfod eu cryfderau, a datblygu’r annibyniaeth sydd ei hangen arnynt i lwyddo.
Yn Ysbyty Nevill Hall, mae ein interniaid yn chwarae rhan werthfawr yn y tîm, gan gyfrannu at redeg y gwasanaeth yn esmwyth ac effeithiol, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion, staff ac ymwelwyr bob dydd. Dywedodd Sophie Davies, Prif Diwtar yr Interniaethau a Gefnogir, mai Nevill Hall yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer y rhaglen: “ Mae pawb mor groesawgar. Maen nhw’n cyfathrebu â’n dysgwyr ac yn ein helpu ni i’w cefnogi. Mae gweld y gwahaniaeth yn y dysgwyr rhwng dechrau’r interniaeth a’r hyn ydyn nhw erbyn hyn yn anhygoel - ac mae hynny oherwydd cefnogaeth y staff.”