Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched ym Myd Gwyddoniaeth!

Dydd Gwener 11 Chwefror 2022

Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched ym myd Gwyddoniaeth, rydyn ni'n dathlu rhai o'n cydweithwyr anhygoel.

Dewch i gwrdd â’r tîm o wyddonwyr benywaidd yn Ysbyty Brenhinol Gwent, a dysgu mwy am eu rolau a pham eu bod yn caru’r rhannau y maent yn eu chwarae yng ngwyddoniaeth a gofal cleifion.


 Mae Gwenan yn Wyddonydd Biofeddygol yn yr Adran Patholeg Cellog.

Hi sy'n gyfrifol am arwain ansawdd yn yr adran, gan sicrhau bod y gwaith yn y labordy yn cydymffurfio â safon ryngwladol.

Meddai: “Fe wnes i fwynhau gwyddoniaeth yn yr ysgol yn fawr ac roeddwn i wastad eisiau gweithio mewn labordy. Mae gennym dîm gwych o fenywod yn gweithio yn ein hadran, mewn amrywiaeth o rolau gwahanol. Rwyf wrth fy modd â’r awyrgylch cadarnhaol yn y labordy, sut rydym yn cefnogi ein gilydd a’r amrywiaeth o fewn y rôl.”


  Mae Bethan yn Wyddonydd Biofeddygol Arbenigol dan Hyfforddiant.

Meddai: "Mae fy rôl yn ymwneud â helpu patholegwyr i gael diagnosis i gleifion. Dewisais yrfa mewn Gwyddor Biofeddygol gan fy mod yn teimlo y gallwn wneud cyfraniad cadarnhaol i lwybr y claf tra'n perfformio swydd rwy'n ei charu.

"Rwyf bob amser wedi caru gwyddoniaeth ac yn mwynhau gallu defnyddio fy ngwybodaeth o'm cymwysterau i sicrhau bod y cleifion o'r ansawdd gorau. Mae bod yn fenyw mewn gwyddoniaeth yn fy ngalluogi i ysbrydoli merched eraill i gymryd rhan a dechrau gyrfa mewn gwyddoniaeth."


Bu Jenny yn gweithio ym maes Patholeg Gellog ers 17 mlynedd. Mae hi'n gweithio'n bennaf yn Labordy Imiwnohistocemeg yr adran, sy'n cynnwys arddangos antigenau penodol mewn toriadau meinwe trwy gymhwyso gwrthgyrff. Mae'r dechneg hon yn helpu i wneud diagnosis a thrin clefydau fel canser, ac mae'n faes sy'n ehangu'n gyson, gyda mwy a mwy o wrthgyrff ar gael.

Meddai: “Rwy’n mwynhau’r agwedd hon ar fy ngwaith yn fawr ac yn teimlo boddhad o fod wedi chwarae rhan fach yn nhaith claf.

“O oedran ifanc iawn, gwyddoniaeth oedd fy unig diddordeb i. Roeddwn bob amser yn perfformio “arbrofion” gartref (nid ydw i'n argymell hynny!) Rwyf hefyd yn angerddol am helpu pobl ac yn teimlo bod swydd mewn labordy GIG yn fy ngalluogi i gyfuno hyn â'r “gwyddoniaeth ymarferol” rydw i'n ei charu!”


 Mae Lisa yn aelod o Adran Patholeg Gellog yr ysbyty. Mae ei swydd yn cynnwys paratoi Sytoleg Diagnostig, dyrannu BMS, Dyrannu Patholeg, a Microtomi.

Dywedodd: “Mae’r amrywiaeth yn y gwaith, y sylw i fanylion sydd ei angen, yr angen cyson i wella, yn ogystal ag archwilio canlyniad terfynol fy ngwaith, yn arwain at ysgogiad sy’n fy ngwthio’n gyson yn fy rôl ac sy’n rhoi llawer o foddhad, gyda'r wybodaeth bod canlyniadau fy ngwaith yn gwneud gwahaniaeth ymhellach ymlaen.

“Mae’r ymdrech tîm sydd ynghlwm wrth wneud i hyn i gyd ddigwydd, yr wyf yn falch o fod yn rhan ohono, yn fy ysgogi bob dydd i gyflawni nid yn unig i mi fy hun, ond i’m hadran gyfan.

“Rwyf wedi bod yn ffodus i ddod o hyd i faes gwaith yr wyf yn angerddol amdano, sy’n ymarfer fy meddwl yn gyson, sy’n fy ngwthio i gyflawni mwy, ac sy’n cynhyrchu canlyniadau gweladwy y gallaf eu gweld.”


Roedd gan Penny ddiddordeb mewn gwyddoniaeth o'r ysgol. Roedd hi yn y garfan gyntaf ym Mhrifysgol Wolverhampton i wneud Gwyddor Biofeddygol fel gradd. Yna gwnaeth PhD a daeth yn ôl i wyddoniaeth fiofeddygol yn 30 oed.

Dywedodd: "Rwy'n mwynhau gallu helpu cleifion a datblygu technegau modern newydd i helpu i wneud diagnosis o ystod o glefydau. Rydym yn ddolen hanfodol yn y gadwyn o'r sbesimen i'r diagnosis i'r meddyg ei roi i'r claf. Heb y menywod mewn gwyddoniaeth, ni allai'r meddygon ddarparu'r diagnosis a'r driniaeth."


Mae Natalie yn Uwch Wyddonydd Biofeddygol mewn Patholeg Cellog, ac mae hefyd yn Bennaeth Dyrannu yn y labordy. Bu'n Wyddonydd Biofeddygol cymwys ers 32 mlynedd.

Meddai: "Mae fy rôl fel Gwyddonydd Biofeddygol yn ddiddorol iawn ac yn rhan bwysig o wneud diagnosis o glefydau. Nid wyf yn rhyngweithio â chleifion wyneb yn wyneb, ond mae'r gwasanaeth a ddarparwn yn sicrhau y gall Ymgynghorwyr a Meddygon Teulu ddarparu'r triniaethau angenrheidiol i gleifion unigol.


"Mae Patholeg Cellog yn cynnwys llawer o feysydd arbenigedd - Dyrannu, Mewnosod a Microtomi i enwi ychydig ohonynt, ac mae llawer o fenywod yn fy labordy. Mae'n llwybr gyrfa gwerth chweil ac yn ddiddorol iawn."