Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Diwrnod Teithio Llesol Cymru

Dydd Iau 29 Medi 2022

Heddiw, rydyn ni'n sôn am sut rydyn ni'n mynd ati i deithio i sicrhau Cymru wyrddach a mwy disglair. Rydym am annog ein staff ac ymwelwyr tuag at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer teithio.

Ochr yn ochr â nifer o sefydliadau blaenllaw Cymru, rydym wedi llofnodi siarter sy'n ymroddedig i weithredu i helpu staff i deithio'n fwy cynaliadwy. Gobeithiwn y bydd ein gweithredoedd yn annog gwelliant mewn iechyd, gostyngiad mewn llygredd aer a gostyngiad mewn allyriadau carbon.

 


Rydym yn cefnogi Siarter Teithio Llesol Gwent, gan helpu ein staff ac ymwelwyr i deithio drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Roedd 82% o bobl Cymru yn poeni am newid hinsawdd. Gwelwyd allyriadau trafnidiaeth fel y prif achos a nodwyd amlaf.- Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor 2022.

Dangoswyd bod cerdded a beicio rheolaidd yn lleihau eich risg o ganser, clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2, codymau ac yn gwella lles.


Mae gennym nifer o gysylltiadau gwasanaeth bws yng Ngwent i safleoedd ein hysbytai ar gyfer staff ac ymwelwyr.
Gallwch ddefnyddio Traveline.cymru i gynllunio eich taith.

 

Mae Bws Casnewydd hefyd yn gweithredu gwasanaeth bws trydan i Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Mae yna hefyd wasanaeth bws Fflecsi gan Trafnidiaeth Cymru sy’n darparu gwasanaeth bws clyfar sy’n ymateb i’r galw.


Rydym wedi ymuno ag ap Liftshare i helpu ein staff i rannu ceir ac arbed costau wrth gymudo. Rydym yn cefnogi twf cerbydau trydan drwy osod pwyntiau gwefru ar draws safleoedd ysbytai. Rydym hefyd yn datblygu mannau gweithio ystwyth ar gyfer ein staff sy'n symud ar draws safleoedd ysbytai gan leihau'r angen am deithio gormodol ymhellach.

Gallwch ddarganfod mwy am Deithio Llesol Cymru yma.