Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Diwrnod y Llyfr â Dau Lyfr Agos at ein Calonnau

Dydd Iau 4 Mawrth 2021

Fel rhan o Ddiwrnod y Llyfr, rydyn ni'n dathlu dau lyfr sy'n agos iawn at ein calonnau.

Llyfr plant yw Billy the Superhero, gyda'r nod o ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Wedi'i ddatblygu fel cydweithrediad â Phartneriaeth Ranbarthol Gwent, Petra Publishing, ac Ysgol Gynradd leol, mae'r llyfr yn rhan o'n strategaeth rhwng cenedlaethau i ddod â chenedlaethau gwahanol ynghyd trwy weithgareddau ystyrlon.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth

Mae Tu ôl i'r Masg yn llyfr emosiynol gan ein haelod staff, Glenn Dene, sy'n dangos gwaith anhygoel ein staff yn ystod ton gyntaf ddi-baid y Pandemig Covid-19. Gyda naratif gan Ymgynghorydd ICU, Dr Ami Jones MBE, mae'r llyfr yn rhoi mewnwelediad o'r golygfeydd a ddigwyddodd yn Ysbyty Nevill Hall yn ystod cyfnod clo cyntaf y Pandemig.

Gallwch brynu'r llyfr yma. Mae'r holl elw yn mynd at Elusennau'r GIG.