Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu ein Staff yn ein Gwobrau Cydnabod Staff 2026!

Ar Ddydd Gwener 24ain o Orffennaf, fe wnaethom gynnal ein Gwobrau Cydnabod Staff blynyddol.


Mae bob amser yn fraint dod â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd i anrhydeddu'r cyflawniadau anhygoel, yr ymroddiad a'r gofal tosturiol a ddarperir bob dydd. Yr hyn sy'n gwneud y digwyddiad hwn hyd yn oed yn fwy arbennig yw bod pob enwebiad yn dod gan gydweithwyr - dathliad gwirioneddol o werthfawrogiad cymheiriaid a chydnabyddiaeth gilyddol. Roedd y digwyddiad yn ddathliad o'r bobl sydd wrth wraidd y GIG.

Llywyddwyd y digwyddiad gan y Prif Weithredwr, Nicola Prygodzicz.

Wrth agor y digwyddiad, cydnabu Nicola y nifer aruthrol a safon yr enwebiadau a dderbyniwyd eleni. Meddai: "Mae'n fraint ac yn bleser gennyf i’ch croesawu chi i gyd heno i ddathlu'r nifer iawn o gyflawniadau rydyn ni wedi'u gweld dros y 12 mis diwethaf, er gwaethaf yr amgylchiadau heriol cynyddol rydych chi i gyd yn gweithio oddi tanynt. Yn ystod cyfnodau o argyfwng ac anhawster yn arbennig yw lle rydym yn gweld y gweithredoedd mwyaf arwrol gan ein staff, sydd yn fy syfrdanu o hyd.

"Rydym yn cydnabod, hyd yn oed gyda'r nifer hyn o enwebiadau, mai dim ond cipolwg yw hwn o'r gwaith rhagorol a wneir gan ein staff bob dydd. Felly mae ein dathliad heno yn ymwneud â chydnabod cyfraniad ein holl staff ond mae'r rhai ohonoch sydd yma heddiw, yn arbennig, wedi cael eich cydnabod am eich ymroddiad a’ch ymdrechion.”

 

Ac ymlaen at y gwobrau - rhestrir yr holl enillwyr a'r rhai a dderbyniodd dystysgrifau cymeradwyaeth uchel isod: