Llongyfarchiadau i Bianca Armitage, bydwraig yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor, a gafodd ei henwi'n ddiweddar yn enillydd Gwobr Pencampwr Aelodau Gill Adgie yng ngwobrau mawreddog Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM).
Derbyniodd Bianca y wobr i gydnabod ei harweinyddiaeth eithriadol a'i hymrwymiad rhagorol i gefnogi staff a chleifion, sydd wedi ei gweld yn gwella lles staff a chanlyniadau gofal. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys eirioli diflino dros staff, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u cyfraniadau'n cael eu cydnabod.
Mae gwobrau Coleg Brenhinol y Bydwragedd ( RCM) yn dathlu cyflawniadau rhagorol ym maes bydwreigiaeth ledled y DU.
Da iawn, Bianca!