Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu rhagoriaeth mewn gwelliant ac ansawdd: Mae Gwobrau GIG Cymru 2025 ar agor yn swyddogol

Dydd Iau 1af Mai 2025

Bellach yn ei ail flwyddyn ar bymtheg, mae Gwobrau GIG Cymru yn tynnu sylw at y gwaith gwella ansawdd anhygoel sy'n trawsnewid iechyd a gofal ledled Cymru.

Gyda 12 categori sy’n cyd-fynd â'r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023 i ddewis ohonynt, dyma'ch cyfle i gael eich cydnabod. Trwy gyflwyno cais, gallwch

  • Rannu eich llwyddiant a chael cydnabyddiaeth i'ch prosiect a'ch tîm,
  • codi proffil eich gwaith gwella, a
  • bod yn rhan o gymuned o ddysgu a gwella a all ysbrydoli pobl eraill ar draws GIG Cymru.


Ewch i Gwobrau GIG Cymru - GIG Cymru Gweithrediaeth i gael manylion llawn am gyflwyno cais, arweiniad a gwybodaeth am y categorïau.

Mae gennych tan 5:00pm, dydd Gwener 6 Mehefin, i gyflwyno eich cais. Bydd y ceisiadau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn! Cyflwynwch gais heddiw ac fe allech chi fod yn enillydd.