Llongyfarchiadau i’n staff nyrsio a bydwreigiaeth, Rochelle Walters, Alison Rylan a Helen Crosbie, sydd i gyd wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Prif Swyddog Nyrsio heddiw (Dydd Iau 12 Medi 2024) gan y Prif Swyddog Nyrsio, Sue Tranka.
Mae'r gwobrau hyn yn gwobrwyo cyfraniadau sylweddol a rhagorol a wneir gan staff nyrsio a bydwreigiaeth ac rydym yn falch iawn o gyflawniadau gwych ein cydweithwyr.
Roedd ymweliad Sue hefyd yn rhan o ymweliad wedi'i drefnu â'r bwrdd iechyd, lle bu'n ymweld â rhai o wardiau'r Is-adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
Llongyfarchiadau i'n cydweithwyr nyrsio anhygoel!