Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Wythnos Gweithredu ar Ddementia 2022!

 Dydd Gwener 21 Mai 2022

Cynhelir Wythnos Gweithredu ar Ddementia eleni rhwng 16 a 22 Mai 2022.

Bu staff a chleifion yn Wardiau Derw a Rowan yn Ysbyty Cymunedol y Sir yn dathlu'r wythnos gyda llawer o weithgareddau ystyrlon, a fydd o fudd mawr i adferiad cleifion.

 

Eglurodd Rheolwr Ward Derw, Donna Wigmore (de):

“Ein prif ffocws yma yw darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bob claf, felly mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn dod i adnabod ein cleifion a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’u teuluoedd, er mwyn sicrhau bod eu profiad yn un gorau posibl.”


Fel rhan o ddathliadau Wythnos Gweithredu ar Ddementia, croesawodd y Wardiau deuluoedd cleifion i ymuno â pharti te prynhawn gyda'u perthnasau.

Mwynhaodd y teuluoedd de, coffi a chacen, a chawsant gyfle i gwrdd ac ymgysylltu â'i gilydd. Roedd y prynhawn yn llawn hwyl a chwerthin, yn ogystal â chanu a dawnsio - roedd pawb yn wên o glust i glust!

 

 

Roedd claf, Keith, a'i wraig, Caroline, (de) yn llawn canmoliaeth i'r staff ar Ward Rowan.

Dywedodd Caroline: “Mae Keith wedi treulio amser ar Ward Rowan o’r blaen, ac fe wnaeth cwrdd â ffrindiau gwych a ffurfio perthynas mor dda gyda’r staff, felly nad oedd gen i unrhyw bryderon o gwbl amdano’n dod yn ôl yma. Nid oedd Keith yn hapus i fynd yn ôl i’r ysbyty, ond unwaith iddo ddarganfod y byddai’n dychwelyd i Ward Rowan, roeddo wrth ei bodd!”

Daw Keith yn wreiddiol o Dredegar a bu’n ffodus iawn i gwrdd ag Aneurin Bevan ym 1947- y cyfnod pan oedd yn brwydro i sefydlu ein GIG annwyl - felly mae’n ddiolchgar iawn am y gofal y mae’n ei dderbyn. Meddai: “Mae'r gofal yma yn anhygoel. Roedd dychwelyd i Ysbyty’r Sir yn teimlo fel dychwelyd adref.”


Nid yw colli eich cof yn arwydd o fynd yn hen - gallai fod yn arwydd o ddementia ynoch chi neu rywun annwyl.

Dewch o hyd i help a chefnogaeth yn alzheimers.org.uk neu ffoniwch 0333 150 3456.