Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio Miwsig fel Therapi- Dydd Miwsig Cymru

Dydd Gwener 4 Chwefror 2022

Heddiw, rydyn ni'n dathlu Dydd Miwsig Cymru.

A wyddoch chi y gellir defnyddio cerddoriaeth fel therapi?

Mae’r cyfweliad isod gyda Sarah a Joy, Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau a Therapydd Cerddoriaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn trafod manteision ac effaith defnyddio miwsig fel therapi.

O'i defnyddio i ddianc rhag pwysau bywyd bob dydd ac i ymdawelu cleifion sy'n aros am apwyntiadau neu weithdrefnau brawychus, i gleifion strôc fel rhan o'u hadferiad ac i gleifion Dementia i ysgogi eu meddyliau; mae miwsig- yn enwedig miwsig Cymreig- yn ffordd o therapi effeithiol iawn i bob un ohonynt.

                         

Fel yr eglura Sarah, gall canu fod yn therapiwtig iawn hefyd, yn enwedig wrth ganu mewn grŵp.

Felly os ydych chi'n bwriadu gwylio'r rygbi'r penwythnos yma, beth am wirio geiriau Sosban Fach a Chalon Lân i ddathlu Dydd Miwsig Cymru â therapi cerddorol?