A wyddoch chi fod yr Offeryn Hygyrchedd ReciteMe ar gael i'w ddefnyddio ar draws ein gwefan?
Mae ReciteMe yn offeryn hygyrchedd digidol uwch sydd wedi’i gynllunio i helpu defnyddwyr i deilwra eu profiad ar-lein i ddiwallu anghenion unigol. Gyda’r nodwedd hon, gallwch addasu gosodiadau’n hawdd megis maint a steil y ffont, cyferbyniadau lliw, darllen testun ar lafar a hyd yn oed gyfieithu cynnwys y wefan i fwy na 100 o ieithoedd gwahanol.
Mae’r offeryn hwn wedi’i deilwra i gefnogi pobl ag amrywiaeth o anghenion, gan gynnwys nam ar y golwg a chyflyrau niwroamrywiol fel dyslecsia. Mae’r bar offer ReciteMe yn cynnwys nodweddion fel:
I ddechrau defnyddio’r bar offer ReciteMe, cliciwch ar yr eicon ReciteMe ar unrhyw dudalen ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. O’r fan honno, fe welwch ystod o opsiynau i bersonoli eich profiad pori.
Mae’r fideo isod yn dangos sut mae’r offeryn ReciteMe yn gweithio.