Neidio i'r prif gynnwy

Derbyniodd Dr Modupe Obilanade yr MBE am Wasanaethau Eithriadol i'r Gymuned

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Dr Modupe Obilanade, meddyg teulu ymroddedig ac ysbrydoledig, wedi derbyn MBE (Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin am ei gwasanaethau eithriadol i'r gymuned leol.

Ers dros ddegawd, mae Dr Obilanade wedi bod gyrru Clinig St Paul yn ei flaen, gan ei drawsnewid o bractis bach, a oedd dan bwysau, yn ganolfan gofal iechyd sy’n ffynnu yng nghanol y gymuned. Mae ei hymrwymiad diflino, yn aml yn gweithio ar ei phen ei hun i gadw'r practis ar ei draed, wedi cael effaith eithriadol ar iechyd a lles llu o gleifion.

O dan ei harweinyddiaeth, mae St Paul's wedi dod yn fodel o ofal hygyrch, tosturiol a chymunedol sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae hi wedi hyrwyddo mentrau i leihau anghydraddoldebau iechyd, gwella rheoli clefydau cronig, ac adeiladu ymddiriedaeth gyda phoblogaethau sy’n cael eu tangynrychioli. Mae ei gwaith nid yn unig wedi gwella canlyniadau clinigol ond hefyd wedi cryfhau'r berthynas rhwng y practis a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Mae cydweithwyr yn disgrifio Dr Obilanade fel "rhywun na ellir rhoi stop arni" "hynod dosturiol," a "gwir arweinydd cymunedol."

Mae’r ffaith iddi gael ei chydnabod yn y rhestr Anrhydeddau yn dyst i'w hymroddiad diwyro a'r gwahaniaeth y gall un person ei wneud pan fyddant yn arwain o’u calon gyda diben.

Mae'r MBE yn un o’r anrhydeddau mwyaf y gall dinasyddion ei dderbyn yn y DU, ac fe’i rhoddir i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i gymdeithas.