Neidio i'r prif gynnwy

Dewiswch eich Fferyllfa Leol i gael Cymorth gydag Anhwylderau'r Gaeaf

Gall pobl ledled Gwent gael mynediad at gymorth i reoli amrywiaeth o bryderon iechyd tymhorol yn eu fferyllfa leol y gaeaf hwn – heb angen apwyntiad gyda meddyg teulu.

Gyda thywydd oer yn aml yn dod â chynnydd mewn afiechydon cyffredin, fel peswch, annwyd, dolur gwddf a phroblemau sinws, gallai fferyllfeydd lleol fod y man cyntaf i gael mynediad at gymorth amserol, ar yr un diwrnod, ar gyfer y cyflyrau hyn.

Dros gyfnod y gaeaf, gall fferyllwyr cymunedol gynnig cyngor ac argymell y feddyginiaeth gywir i'w phrynu i helpu i reoli symptomau annwyd, ffliw a sinwsitis gartref, yn ogystal â chynghori ar yr eitemau hanfodol y dylai trigolion eu cael yn eu cypyrddau meddyginiaeth. Gall y rhan fwyaf o fferyllfeydd ddarparu amddiffyniad rhag ffliw tymhorol trwy gynnig brechiadau ffliw â thâl.

Mae pob Fferyllfa yng Ngwent hefyd yn cynnig cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer 26 afiechyd ysgafn cyffredin fel rhan o'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin. Mae rhai cyflyrau a gwmpesir gan y gwasanaeth yn cynnwys y rhai a welir yn aml yn ystod misoedd oerach, megis:

  • Dolur gwddf
  • Croen sych ac ecsema
  • Briwiau oer ac wlserau'r geg

Mae'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn caniatáu i drigolion lleol gael eu gweld gan fferyllwyr hyfforddedig, a all asesu symptomau, rhoi arweiniad cyfrinachol, a chyflenwi triniaeth os oes angen. Gan fod y Gaeaf yn gyfnod prysur mewn fferyllfeydd cymunedol, argymhellir apwyntiadau, ac felly cynghorir cleifion i ffonio ymlaen llaw cyn ymweld â'u fferyllfa ddewisol a byddant fel arfer yn cael eu gweld o fewn 24 awr.

Dywedodd Richard Evans, Arweinydd Fferyllfa Gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae ein Fferyllwyr lleol yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig iawn a all gynnig cyngor arbenigol ar reoli amrywiaeth o anhwylderau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y cyflyrau sy'n fwy cyffredin mewn tywydd oerach.

“Gyda Dolur Gwddf a Heintiau’r Llwybr Wrinol (UTIs) bellach yn rhan o’r rhestr o afiechydon sy’n dod o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin am ddim, mae’n haws nag erioed i bobl gael mynediad at ofal diogel ac amserol y gaeaf hwn.”

Efallai y gofynnir i gleifion gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin am ddim. Ar gyfer dolur gwddf a heintiau llwybr wrinol, gellir cynnal prawf syml i wirio a oes angen gwrthfiotigau.

Mae'r rhestr lawn o anhwylderau cyffredin sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun ar gael yma: Fferyllfeydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan