Neidio i'r prif gynnwy

*DIWEDDARIAD* Digwyddiad Tân yn Adran Cleifion Allanol Ysbyty Brenhinol Gwent

Dydd Mercher 25 Ionawr 2023

 

10.30yb

Diweddariad! Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bellach wedi gadael safle Ysbyty Brenhinol Gwent ac mae'r adeilad wedi ei ddiogelu. Gall unrhyw un sydd ag apwyntiad o 11yb ymlaen heddiw yn y Brif Adran Gleifion Allanol fynychu eu hapwyntiad, gan y bydd y rhain yn mynd ymlaen fel y cynlluniwyd.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achoswyd. Diolch am gydweithrediad pawb ac i'n staff a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am eu hymateb cyflym.


10yb

Ar hyn o bryd, rydym yn delio gyda thân yn Adran Gleifion Allanol Ysbyty Brenhinol Gwent. Mae'r adran wedi ei gwagio ac mae gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar y safle. Mae pob apwyntiad claf allanol heddiw wedi'u canslo ac mae pob claf mewnol a staff yn ddiogel.