Neidio i'r prif gynnwy

Diolch i Newport Live am y gefnogaeth yn ystod yr ymdrech Brechu Torfol

Gan na fydd y lleoliad ar gael i ni bellach, bydd ein tîm Brechu Torfol yn gadael Canolfan Casnewydd 30 Medi 2022.

 

Ers agor ei ddrysau fis Ionawr 2021, mae Canolfan Brechu Torfol Covid-19 Casnewydd wedi chwarae rôl hanfodol yn ein Rhaglen Brechu Torfol Covid-19. Gan weithio gyda Newport Live a Chyngor Dinas Casnewydd i amddiffyn ein cymunedau, mae tîm Brechu Torfol y ganolfan wedi rhoi dros 344,000 o frechlynnau Covid-19.

 

Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Swyddog Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: 

"Hoffwn ddiolch i'r tîm yng Nghanolfan Brechu Torfol Casnewydd, sydd wedi gweithio'n ddiflino ers ei agor i roi brechiadau Covid-19 hollbwysig i bobl a chynnig yr amddiffyniadau gorau posibl i'n cymunedau.

 

"Hoffwn ddiolch i Newport Live a Chyngor Dinas Casnewydd am eu cefnogaeth wych dros y 18 mis diwethaf."

 

Bydd ein Canolfannau Brechu Torfol ar Gampws Pont-y-pŵl Coleg Gwent, Canolfan Hamdden Pontllan-fraith a Swyddfeydd Cyffredinol Glynebwy yn parhau i fod yn agored. Bydd rhai cydweithwyr yn ein meddygfeydd Meddyg Teulu a'n Fferyllfeydd lleol hefyd yn cynnig apwyntiadau am frechiad, er mwyn i ni allu parhau i gyflawni'n effeithiol Rhaglen Brechiad Atgyfnerthu'r Hydref ledled y Bwrdd Iechyd.

 

Bydd y rheini sy'n gymwys am Frechiad Atgyfnerthu Covid-19 yr Hydref yn cael eu gwahodd i gael apwyntiad yn uniongyrchol. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y rhaglen Brechiad Atgyfnerthu a gynhelir dros yr hydref yn Rhaglen Frechu Covid-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)