Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Fasgiau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dydd Mawrth 31 Mai 2022

O'r wythnos hon ymlaen, nid yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i ymwelwyr wisgo masgiau neu orchuddion wyneb wrth fynd i mewn i safleoedd gofal iechyd yng Nghymru, fel y cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.  O fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, byddwn yn parhau i gefnogi ac annog ein cleifion a'n cymunedau i wisgo masgiau/gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i'n safleoedd ardraws Gwent, gan sicrhau eu bod ar gael mewn mannau cyhoeddus, wardiau ac adrannau.  

Bydd yn ofynnol o hyd i staff, cleifion ac ymwelwyr wisgo masgiau/gorchuddion wyneb mewn ardaloedd sy'n delio ag achosion hysbys neu amheus o COVID-19 a heintiau anadlol eraill, yn unol â chanllawiau atal a rheoli heintiau.

Lle mae rhai grwpiau o gleifion yn parhau i fod mewn mwy o berygl o ddal COVID-19 (imiwnoataliedig), bydd asesiad unigol yn penderfynu a oes angen gwisgo masgiau fel y gallwn barhau i amddiffyn ein defnyddwyr gwasanaeth sydd fwyaf agored i niwed yn glinigol.

Parhewch i olchi eich dwylo wrth fynd i mewn i unrhyw un o'n cyfleusterau a’u golchi mor aml â phosibl gan ddefnyddio sebon a dŵr neu hylif diheintio dwylo.

Peidiwch ag ymweld â'n hysbytai os oes gennych symptomau tebyg i ffliw, symptomau COVID-19, â dolur rhydd a chwydu ar hyn o bryd neu wedi cael dolur rhydd yn ystod y 48 awr ddiwethaf, wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â'r symptomau uchod yn ystod y 48 awr ddiwethaf sydd â chyflwr meddygol sy'n bodoli eisoes neu sydd ar feddyginiaeth sy'n eich rhoi mewn perygl o gael eich heintio.

Diolch am ein cefnogi drwy wneud eich rhan i gadw ein hysbytai a'n cymunedau'n ddiogel.