Diolch i holl drigolion Gwent am eich amynedd, cefnogaeth a chwestiynau. Mae ein hysbytai a’n gwasanaethau yn parhau i fod yn brysur ofnadwy heddiw a hoffem ofyn i bobl leol ein helpu drwy ddilyn y cyngor a gyhoeddwyd gennym neithiwr.
Achosir y sefyllfa bresennol gan:
• Y nifer uchaf erioed o gleifion gwael iawn sydd angen gofal ysbyty;
• Yr anhawster wrth ryddhau claf o'n hysbytai oherwydd prinder staff ym maes gofal iechyd a chymdeithasol;
• Lefelau uchel o gyfnodau absenoldeb salwch staff uchel oherwydd Covid; a
• Sgil-effeithiau eang pandemig Covid, megis dirywiad iechyd pobl gyhoeddus.
Byddwn yn darparu diweddariadau pellach drwy ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y bydd gennym ni.
Diolch.