Hoffem ddiolch i bawb am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ysbyty Brenhinol Gwent
Diolch i ymdrechion cleifion, ymwelwyr a staff, rydym yn gweld arwyddion bod pethau’n gwella.
Mae ymweld â phwrpas bellach wedi cael ei dynnu i lawr a gall trefniadau ymweld arferol ailddechrau, er ein bod yn gofyn i ymwelwyr aros yn ofalus a dilyn y cyngor isod.
Ysbyty Ystrad Fawr (YYF) 01443 802353
Oherwydd cynnydd sylweddol mewn achosion Norofeirws, mae trefniadau ymweld â phwrpas bellach yn eu lle ar draws yr ysbyty. Cysylltwch â'r ward cyn ymweld. Mae'n bosibl y bydd ymwelwyr sy'n cyrraedd heb gysylltu ymlaen llaw yn cael eu gwrthod.
Mae ymweld â phwrpas yn cynnwys cymorth lles hanfodol, darparu eitemau personol a gofal diwedd oes. Os ydych chi'n ansicr a yw eich ymweliad yn briodol, siaradwch â thîm y ward.
Mae holl safleoedd eraill y Bwrdd Iechyd yn gweithredu fel arfer
Parhewch i:
Mae pob apwyntiad yn mynd rhagddo fel arfer, oni bai ein bod yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i aildrefnu.
Diolch am helpu i gadw ein cleifion, ein hymwelwyr a’n staff yn ddiogel. Os oes gennych gwestiwn brys, anfonwch neges uniongyrchol atom.