Mae tymor y ffliw ar y gweill yn swyddogol ac mae ysbytai yn gweld lefelau ffliw na welwyd ers pandemig COVID-19.
Os ydych yn gymwys, rydym yn eich annog yn gryf i fanteisio ar y cyfle i gael eich brechu y Gaeaf hwn a pheidio â gadael i’r Ffliw ddifetha’r Nadolig i chi a’ch anwyliaid.
Gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys yma ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru , ac isod mae lle gallwch gael eich brechiad ffliw.
Plant dwy neu dair oed (oedran ar 31 Awst 2022 ): Meddygfa (DS, mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed yn cael cynnig y brechlyn yn y feithrinfa)
Plant ysgolion cynradd ac uwchradd : Ysgol gynradd ac uwchradd
Plant rhwng 6 mis ac o dan 18 oed â chyflwr iechyd hirdymor : Meddygfa (DS. bydd plant oed ysgol gynradd ac uwchradd yn cael cynnig eu brechlyn ffliw yn yr ysgol)
Merched beichiog : Meddygfa, rhai fferyllfeydd cymunedol neu, mewn rhai ardaloedd o Gymru gan eu bydwraig
Cyflyrau iechyd tymor hir (oedolion) : Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol
Pobl 50 oed neu hŷn : meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol
Gofalwyr di -dâl : meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol
Gofalwyr cartref : Fferylliaeth gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill)
Staff cartrefi gofal : Fferylliaeth gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill)
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol : Trwy gyflogwr