Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu Covid

Dydd Mercher 30 Rhagfyr

Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r newyddion y bore yma bod brechlyn Rhydychen/ AstraZeneca bellach wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio. Fel Bwrdd Iechyd, rydym wedi gwneud cynnydd da ar ein rhaglen frechu ers iddo ddechrau ar 8fed Rhagfyr a brechlyn newydd hwn yn ein helpu i gyflymu ein rhaglen frechu.

Fel Bwrdd Iechyd, byddwn yn defnyddio cyfuniad o Ganolfannau Brechu Torfol, Unedau Symudol i fynd â'r brechlyn allan i bobl sy'n methu â chyrraedd canolfan fel y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal a lleoliadau tebyg, a thrwy Feddygfa Gyffredinol Gofal Sylfaenol.

Er mwyn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, mae rhai grwpiau o bobl wedi cael eu blaenoriaethu i dderbyn y brechlyn COVID-19. Rydym yn dilyn grwpiau blaenoriaeth y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) sydd yn gyntaf:  

  • Trigolion a staff cartrefi gofal
  • Pobl dros 80 oed a Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol rheng flaen

Rydym yn gweithio i frechu pobl mor gyflym a diogel ag y gallwn o fewn y grwpiau blaenoriaeth yn seiliedig ar y cyflenwad o frechlyn sydd ar gael inni.

Os ydych chi dros 80 oed neu os oes gennych chi aelod o'r teulu sydd dros 80 oed, sicrhewch y byddwn yn cysylltu'n fuan iawn trwy lythyr i drefnu brechiad. Yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i wybodaeth ddod i'r amlwg am gyflenwad, ac apwyntiadau ar gael ar fyr rybudd, gallwn hefyd ffonio unigolion. Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, mae ein staff yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn brechu cymaint o bobl cyn gynted â phosibl. Os nad ydych mewn grŵp blaenoriaeth, arhoswch i gael eich gwahodd.

Peidiwch â chysylltu â'ch Meddygfa Teulu neu Fferyllfa gan na fyddant yn gallu'ch helpu i drefnu apwyntiad.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus ac i ofyn am eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth inni symud ymlaen gyda'r rhaglen frechu.

Ewch i: 
Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)