Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Gan y Wasanaeth Negeseuon o'r Cartref

Dydd Iau 24 Chwefror 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw hi i gleifion a’u hanwyliaid weld ei gilydd tra’u bod yn derbyn gofal yn yr ysbyty. Mae angen inni gydbwyso hyn yn ofalus â'r risg i gleifion, aelodau o'r teulu a staff a ddaw yn sgil ymweld.

Yn dilyn y diweddariad blaenorol ar ymweliadau ar 10 Ionawr 2022, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn parhau i gynnal ymweliadau cyfyngedig yn sgil trosglwyddiad cymunedol parhaus o Covid-19 a rhai achosion o wardiau. Mae hyn yn cael ei adolygu’n wythnosol i sicrhau bod iechyd, diogelwch, iechyd meddwl a lles ein cleifion, cymunedau a staff yn parhau’n flaenoriaeth.

Mae ein gwasanaeth negeseuon yn dal i fod ar gael i alluogi teuluoedd a ffrindiau i gyfleu dymuniadau da i'w hanwyliaid yn yr ysbyty trwy gyfeiriad E-bost pwrpasol. Bydd pob neges a dderbynnir yn cael ei hargraffu gan aelod o staff a'i throsglwyddo i dîm clinigol y claf. Bydd cymorth i ddarllen negeseuon hefyd yn cael ei ddarparu os oes angen.

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'n bosibl y bydd negeseuon yn dal i gael eu hanfon dros y penwythnos, ond ni fydd y rhain yn cael eu dosbarthu tan ddydd Llun. Dylai unrhyw un sy’n dymuno anfon neges at ffrind neu rywun annwyl e-bostio eu neges, ynghyd ag enw llawn y claf, Rhif Ward a Safle’r Ysbyty i: MessagesfromHome.ABB@wales.nhs.uk