Rydym yn falch i gyhoeddi, oherwydd cymorth parhaol staff, cleifion ag ymwelwyr yn gwisgo mygydau a chynnydd yn weithdrefnau atal heintiau fel golchi dwylo aml, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y cleifion derbyniwyd gyda heintiau anadlol megis ffliw a RSV ar draws ein safleoedd.
Ar sail hyn, nid oes bellach rhaid gwisgo mygydau ar draws ein safleoedd, heblaw ardaloedd anadlol a wardiau gyda brigiad o norofeirws. Er bod hwn yn gam adeiladol, gofynnwn i bawb aros yn wyliadwrus a pharhau i olchi dwylo yn gyson er mwyn amddiffyn eraill wrth ymweld â’n safleoedd.
Byddwn yn parhau i fonitro'r achosion o heintiau anadlol ac ail gyflwyno'r angen i wisgo mygydau os oes angen. Diolch am eich cymorth parhaol wrth gadw ein cleifion, ymwelwyr a staff yn ddiogel.