Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Diabetes y Byd

Dydd Llun 14 Tachwedd 2022

Beth yw Diabetes?

Mae dros 209,015 o bobl yng Nghymru bellach yn byw gyda diabetes Mae hyn yn 8% o'r boblogaeth 17 oed a throsodd - y niferoedd uchaf yn y DU - ac mae'r ffigwr yn codi bob blwyddyn. Mae diabetes yn gyflwr difrifol lle mae lefel eich glwcos gwaed yn rhy uchel. Gall ddigwydd pan nad yw eich corff yn cynhyrchu digon o inswlin, neu pan na allwch gynhyrchu unrhyw inswlin o gwbl. 

Mae dau brif fath o ddiabetes: math 1 a math 2. 

  • Pan fydd gennych ddiabetes math 1, ni allwch gynhyrchu unrhyw inswlin o gwbl. 

  • Os oes gennych ddiabetes math 2, mae pethau ychydig yn wahanol. Ni all yr inswlin a gynhyrchwch naill ai weithio'n effeithiol, neu ni allwch gynhyrchu digon ohono. 

Maent yn gyflyrau gwahanol, ond mae'r ddau ohonynt yn ddifrifol. 

Mae mathau eraill o ddiabetes yn cynnwys diabetes beichiogrwydd, y gall rhai menywod fynd ymlaen i'w ddatblygu yn ystod beichiogrwydd. Mae llawer o fathau mwy prin o ddiabetes hefyd.  

Yr hyn sydd gan bob math o ddiabetes yn gyffredin yw eu bod yn achosi i bobl gael gormod o glwcos (siwgr) yn eu gwaed. Mae angen rhywfaint o glwcos arnom i gyd i rhoi egni i ni. Rydym yn cael glwcos pan fydd ein cyrff yn torri'r carbohydradau rydym yn eu bwyta neu'n eu hyfed, i lawr, sydd wedyn yn cael ei ryddhau i'n gwaed. 

Yn ogystal, mae arnom angen hormon o'r enw inswlin. Mae'n cael ei gynhyrchu gan ein pancreas, ac inswlin sy'n caniatáu i'r glwcos yn ein gwaed fynd i mewn i'n celloedd a rhoi egni i’n cyrff. Os nad oes gennych ddiabetes, mae eich pancreas yn synhwyro pan fydd glwcos wedi dod i mewn i'ch llif gwaed ac yn rhyddhau'r swm cywir o inswlin, er mwyn i’r glwcos fynd i mewn i'ch celloedd. Ond os oes gennych ddiabetes, nid yw'r system hon yn gweithio. 

 

Ydych chi'n gwybod symptomau Diabetes?

“Mae adnabod symptomau diabetes yn hollbwysig o ran rhwystro cymhlethdodau rhag datblygu – cyntaf yn y byd y cân nhw eu hadnabod, gorau yn y byd fydd y canlyniad. Blinder, syched, mynd i’r tŷ bach (gwneud dŵr yn amlach), y llindag a doluriau’n hir yn gwella – mae’r rhain i gyd yn symptomau o ddiabetes. Os ydych yn dioddef o unrhyw un o’r symptomau hyn, mae hi’n bwysig ichi gysylltu â’ch meddyg teulu.” 

Frances Rees, Arweinydd Tîm Nyrsys Arbenigol Diabetes Gofal Sylfaenol.

Cewch ragor o wybodaeth am Ddiabetes yma: https://bit.ly/3b1jUJk 

 

 

 
Y Pedwar T

Mae Diabetes Math 1 Heb ei Ddiagnosio mewn plant yn argyfwng meddygol. 

Pe bai rhieni yn sylwi ar UNRHYW un o symptomau allweddol diabetes Math 1, dylent drefnu apwyntiad brys gyda meddyg teulu neu gysylltu â’r gwasanaeth y tu allan i oriau. 

Dyma brif symptomau diabetes Math 1: 

• Toiled: Mynd i’r tŷ bach yn llawer amlach nag arfer, plant yn gwlychu’r gwely yn ystod y nos er nad oeddynt yn arfer gwlychu’r gwely, plant ifanc â chewynnau trymach 

• Syched: Mwy o syched, anodd torri syched 

• Blinder: Teimlo’n fwy blinedig/lluddedig 

• Teneuach: Colli pwysau, teneuach yr olwg, dillad yn teimlo’n llacach 

Cewch ragor o wybodaeth yma: https://bit.ly/3b1jUJk 

 

Stori Daisy

Ar 29 Gorffennaf 2021, cafodd Daisy May, 5 oed, ei rhuthro i’r ysbyty a chafodd ei diagnosio â diabetes Math 1. Yma, mae ei mam yn sôn am y profiad: 

“Gan ei bod mor wan, bu’n rhaid imi ei chario i’r car ac i mewn i’r Feddygfa. Yno, cafodd brawf gwaed pigiad bys gan y Nyrs (roedd hi’n 17.2) a chefais wybod yn syth y byddai’n rhaid iddi fynd i’r ysbyty. 

Gyrrais Daisy i Ysbyty Prifysgol y Faenor, ac erbyn imi ei chofrestru gyda’r derbynnydd roedd y nyrsys yn galw arnaf yn barod. Ar ôl inni fynd i’r ystafell asesu, fe gawson ni ein hamgylchynu gan bobl yn rhoi sylw iddi. Roeddwn i wedi dychryn – dyna pryd y sylweddolais fod fy merch fach yn ddifrifol wael; ond ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn bod arni. Roedd y meddygon yn gweithio mor gyflym i roi hylif iddi ac yn trefnu profion gwaed. Fe gawson nhw drafferth i roi lein yn ei braich gan fod ei chorff mor brin o hylif. 

Ar ôl gweithio am ddwyawr ar Daisy, fe gawson ni ein symud i’r Uned Dibyniaeth Fawr, a dyna pryd y rhoddodd y Meddyg Pediatrig wybod imi fod Daisy yn dioddef o Ddiabetes Math 1. Bu’n rhaid iddyn nhw weithio’n gyflym, oherwydd roedd Daisy yn DKA (Diabetic Ketoacidosis). Roedd hyn yn golygu ei bod yn brin iawn o inswlin a bod ei chorff yn cynhyrchu cetonau – rhywbeth a allai roi ei bywyd yn y fantol heb driniaeth frys. Fe wnaethon ni dreulio un noson yn yr Uned Dibyniaeth Fawr a thridiau wedyn ar y Ward. 

Hoffwn ddiolch o galon i holl staff Ysbyty Prifysgol y Faenor – yn cynnwys yr Uned Asesu Plant, staff yr Uned Dibyniaeth Fawr, Ward y Plant, y Porthorion a staff y gegin, a hefyd i’r ddynes a ddaeth â theganau i’r ystafell er mwyn i Daisy allu chwarae gyda nhw. Hefyd, diolch enfawr i chi, y tîm Diabetes, am yr holl gymorth hyd yn hyn.” 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw symptomau Diabetes Math 1 mewn plant: https://bit.ly/3b1jUJk

 

Stori Ollie

Cafodd Ollie ddiagnosis o ddiabetes math 1 pan oedd yn 8 mlwydd oed. 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n rheoli ei ddiabetes ac yn byw bywyd llawn!