Eleni, mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar ddydd Iau 20 Tachwedd 2025 . Y thema yw "Gwybod eich hawliau, defnyddiwch eich hawliau."
Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn ymwneud â chydnabod cyfraniad anhygoel teulu, ffrindiau a pherthnasau sy'n gofalu am rywun sydd â salwch, anabledd neu eiddilwch. Mae'r rhain yn ofalwyr di-dâl yn ein cymuned. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod yr hawliau a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Mae'r hawliau hyn yn cynnwys hawliau i:
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl, rydym yn eich annog i siarad â rhywun a rhoi gwybod iddynt eich bod yn ofalwr di-dâl. Gall hyn fod eich meddyg teulu, yr awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd neu sefydliad y trydydd sector. Ar gyfer gofalwyr iau, gallwch roi gwybod i'ch ysgol, coleg neu brifysgol. Mae yna lawer o adnoddau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi gofalwyr.
Rydym yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymuned, ac rydym yn parhau i weithio'n galed i'ch gwerthfawrogi a gweithio gyda wrth i chi roi’r gefnogaeth bwysig hon.