Ar Ddiwrnod Hepatitis y Byd eleni, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ymuno â Chynghrair Hepatitis y Byd a phartneriaid ledled y byd i alw am gamau gweithredu i gael gwared ar hepatitis fel bygythiad i iechyd y cyhoedd. Mae hepatitis B a C yn dal i effeithio ar filiynau o fywydau ledled y byd ond gellir eu hatal, eu trin neu eu rheoli. Y peth pwysig yw gwybod a ydyn nhw gennych chi neu peidio.
Yma yng Ngwent, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i wella mynediad at brofion mewn meysydd allweddol - gan gynnwys hosteli a lleoliadau eraill. Rydym yn defnyddio profion smotiau gwaed sych a phrofion cyflym i gynyddu ein cyrhaeddiad a chynyddu faint o brofi yr ydym yn ei wneud yn y gymuned. Mae rhai fferyllfeydd cymunedol hefyd bellach yn cynnig profion ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed (BBV), sy'n ein galluogi i gyrraedd mwy o bobl. Gallwch ddarganfod ble i gael prawf BBV yma:
Mae llawer o bobl nad ydynt yn sylweddoli eu bod, o bosibl, yn byw gyda hepatitis, yn aml nid oes ganddynt symptomau - ac nid ydynt yn sylweddoli bod profion a thriniaeth am ddim ac ar gael.
Thema eleni yw chwalu'r rhwystrau i brofion hepatitis. Gyda'n gilydd, rydym yn galw am: Profion firws a gludir yn y gwaed (BBV). - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Fwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, fel y gall pobl wneud penderfyniadau gwybodus am brofion, triniaeth a brechiadau hepatitis.
Cefnogaeth gan wneuthurwyr penderfyniadau i sicrhau bod gan gymunedau'r adnoddau sydd eu hangen arnynt.
Diwedd ar stigma a gwahaniaethu, fel nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.
Credu gyda’n gilydd bod cael gwared ar hepatitis fel bygythiad i iechyd y cyhoedd yn gyraeddadwy - os ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd.
Dywedodd Gavin, sydd wedi bod yn Nyrs Glinigol Arbenigol yn Adran Hepatoleg ABUHB am y 14 mlynedd diwethaf:
“Rydym yn falch ein bod bellach yn profi am Hepatitis mewn hosteli ledled Gwent - mae hon yn boblogaeth bwysig y gellir ei cholli ac sy'n agored i niwed. Yna gallwn eu trin yn effeithiol hefyd. Mae'n hanfodol cael prawf, yn enwedig pan nad ydych chi hyd yn oed yn sylweddoli bod gennych chi hepatitis. Rwy'n eich annog i edrych ar y gwiriwr symptomau hwn Gwiriwr Risg Hepatitis C - Ymddiriedolaeth Hepatitis C gan y gall unrhyw un gael y cyflwr hwn ac mae mor hawdd ei drin.
Ewch i wefan Diwrnod Hepatitis y Byd i ddarganfod sut y gallwch chi ei 'dori i lawr' a'n helpu ni i ddileu hepatitis fel bygythiad i iechyd y cyhoedd - yma yng Ngwent ac ar draws y byd.
Gadewch i ni chwalu'r rhwystrau - a chymryd camau gweithredu yn y gobaith o ddyfodol heb hepatitis.