Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaethau (ODP) Hapus!

Dydd Mercher 14 Mai 2025

Heddiw, rydyn ni'n dathlu Diwrnod Cenedlaethol Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau (ODP) ac 80 mlynedd ers dechrau rôl yr ODP!

Mae Ollie a Beth yn gweithio fel ODP Anesthetig yn Hysbytai Nevill Hall, Brenhinol Gwent ac Athrofaol y Faenor.

Yn ogystal ag arwain tîm y theatrau a pharatoi'r theatr lawdriniaeth ar gyfer gweithdrefnau, eu prif gyfrifoldeb yw meddwl un cam ar y blaen i'r Anesthetydd a rhagweld unrhyw beth y bydd ei angen arnynt neu unrhyw broblemau a allai godi.

Cyn dod yn ODP, gweithiodd Ollie fel peiriannydd mecanyddol. Dywedodd: "Roedd yna lawer o agweddau ar fy rôl mewn peirianneg sydd wedi trosglwyddo i'm rôl fel ODP. Mae bod yn fecanyddol, meddwl technegol, a datrys problemau i gyd yn sgiliau sydd eu hangen arnoch chi fel ODP - yr offerynnau rydyn ni'n eu defnyddio mewn theatrau yw fy mlwch offer peiriannydd! Yn ein rôl, rydym yn gweithio'n galed i greu perthynas â chleifion yn gyflym fel y gallwn gynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl iddynt ac eirioli drostyn nhw."

Dywedodd Beth: "Unrhyw le y byddwch chi'n dod o hyd i Anesthetydd, fe welwch ODP gyda nhw. O Epidural i Ataliad y Galon, unrhyw beth sy'n gysylltiedig ag argyfwng; ni fyddai unrhyw un o'r triniaethau hynny yn bosibl heb ODP. Bod yn glaf mewn Gofal Dwys neu Theatr Lawdriniaeth yw'r sefyllfaoedd mwyaf agored i niwed y gallwch chi fod ynddynt, ac mae'n rhaid i chi allu ymddiried mewn rhywun. Rydyn ni yno i roi'r sicrwydd hwnnw i gleifion ac i ddangos iddyn nhw 'gallwn drwsio hyn ac rydyn ni'n mynd i'ch gwella chi. Rwyf wrth fy modd yn gallu helpu cleifion a'u gwella nhw."

Gelwir pen-blwydd rôl ODP yn 80 yn ben-blwydd Derwen, sy'n symbol o gryfder ac ymrwymiad - rhinweddau sy'n cyd-fynd yn berffaith â rôl ODP!