Heddiw, fel rhan o Ddiwrnod Ymwybyddiaeth HPV (Dydd Mercher 4ydd Mawrth 2026), rydym yn rhannu stori canser serfigol Anneliese..
"Fy enw i yw Anneliese, ac rwy’n fam 41 oed. Dechreuais gael fy misglwyf pan o'n i'n 14 oed, ac maen nhw wastad wedi bod yn drwm iawn. Yn 2016, yn 31 oed, es am fy mhrawf ceg y groth cyntaf. Dangosodd y canlyniadau bod gen i firws HPV a chelloedd anarferol gradd uchel. Roeddwn i wedi bod yn profi rhywfaint o waedu afreolaidd, ond ar y pryd wnes i ddim meddwl llawer am y peth.
Wedi hyn cefais driniaeth toriad dolen i dynnu'r celloedd annormal, a chafodd profion ceg y groth eu trefnu ar fy nghyfer bob tair blynedd. Arhosodd popeth yn glir, tan y llynedd.
Roeddwn i wedi bod yn sylwi ar rywfaint o redlif ychydig yn anarferol ac roeddwn yn teimlo'n fwy blinedig na'r arfer, ond gan fod fy mywyd teuluol yn brysur, doeddwn i ddim wedi rhoi llawer o sylw i hyn. Yn dilyn prawf ceg y groth arferol, dywedwyd wrthyf unwaith eto bod gennyf gelloedd anarferol gradd uchel. Cefais driniaeth dolen arall a chymerais yn ganiataol, fel o'r blaen, mai dyma fyddai diwedd y mater.
Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, sylwais fy mod wedi methu sawl galwad gan yr ysbyty. Doeddwn i ddim yn deall pam yr oedden nhw'n ceisio cysylltu â mi. Pan siaradais â nhw, gofynnom i mi ddod i mewn i drafod fy nghanlyniadau. Cefais gyfarfod gyda’r meddyg, ac yn ystod yr apwyntiad dywedodd y geiriau nad oes neb yn disgwyl eu clywed byth:
Mae'n ddrwg iawn gen i ddweud bod gennych chi gelloedd canseraidd.
Roeddwn i mewn sioc llwyr. Gofynnais, "Ydy hyn yn golygu bod gen i ganser ceg y groth?" a dywedodd "Ydy." Dechreuodd fy mhartner lefain. Mae'ch meddwl yn syth yn mynd i'r lle gwaethaf posib gyda diagnosis fel yna.
Fe wnaeth y tîm fy sicrhau ei bod yn ymddangos ei fod yn ddiagnosis cynnar a bod triniaeth ar gael. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai llawdriniaeth yn unig yn ddigon, ond dywedwyd wrthyf fy mod ar gam 2b a byddai angen cemotherapi, radiotherapi a bracitherapi arnaf.
Ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2025, cefais 25 rownd o radiotherapi, pum rownd o gemotherapi a phum sesiwn o fracitherapi. Yna daeth yr aros, y cyfnod poenus lle rydych yn gobeithio bod y driniaeth wedi gweithio ond nad ydych wedi cael atebion eto. Mae'n teimlo fel am byth.
Ar 13 Tachwedd, derbyniais y newyddion gorau posibl: roedd fy nhriniaeth wedi bod yn llwyddiannus, ac roedd y canser wedi diflannu'n llwyr.
Byddaf yn parhau i gael apwyntiadau dilynol am y ddwy flynedd nesaf. Dw i'n dal i gael niwl y meddwl ar ôl y driniaeth, ac rydw i wedi dechrau'r menopos cynnar. Mae'r diagnosis wedi newid fy mywyd. Mae unrhyw un sydd wedi dioddef o ganser yn gwybod eich bod yn byw gyda rhywfaint o ofn wedyn.
Rwy'n ceisio defnyddio fy mhrofiad i godi ymwybyddiaeth. Oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i mi, aeth fy chwaer am ei phrawf ceg y groth, ac mae nifer o ffrindiau wedi mynd hefyd.
Mae fy neges i eraill yn syml: dydy prawf ceg y groth ddim yn boenus ac nid yw’n cymryd llawer o amser, ond gall achub eich bywyd.
Peidiwch ag oedi, os gwelwch yn dda. Ac os nad yw rhywbeth yn teimlo'n normal i chi, unrhyw newid o gwbl, ewch i gael prawf. Siaradwch â rhywun. Gallwch ymddiried yn eich greddf.
Chi sy'n adnabod eich corff orau. Ac mae gweithredu'n gynnar yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr."
Mae bron pob achos o ganser serfigol yn cael ei achosi gan fathau risg uchel o HPV. Yr amddiffyniad gorau posibl yn erbyn canser serfigol yw cyfuniad o frechiad HPV a sgrinio serfigol arferol.