Wrth i wyliau'r ŵyl agosáu'n gyflym, dylid archebu unrhyw feddyginiaeth reolaidd cyn gynted â phosibl i sicrhau bod gennych ddigon i bara drwy gyfnod y Nadolig. Mae hefyd yn syniad da i sicrhau bod eich cwpwrdd meddygaeth wedi'i stocio'n llawn, a allai eich helpu i drin salwch ac anhwylderau cyffredin gartref.
Sylwch er y bydd pob Meddygfa, Practis Optometreg a mwyafrif y Fferyllfeydd cymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan, mae cymorth brys ar gael o hyd i'r rhai sydd ei angen.
Gall gwasanaethau fel 111, Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau ac Unedau Mân Anafiadau ddarparu cymorth brys yn ystod y cyfnod Nadolig, a gall unrhyw un sy'n ansicr lle i fynd am gymorth ymweld â Chanllaw Iechyd Gwent am gyngor.
Gweler isod pa fferyllfeydd fydd ar agor dros y gwyliau banc.
Os oes gennych broblem ddeintyddol brys, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Ddeintyddol y Tu Allan i Oriau ar 01633 744387.
Os ydych angen Gofal Gwasanaethau Cymdeithasol brys, cysylltwch â Thîm Dyletswydd Brys Gwasanaethau Cymdeithasol De-ddwyrain Cymru ar 0800 328 4432.