Ymunodd ein Hymgynghorydd Gofal Dwys, Ami Jones, â Phrif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, i gasglu Croes y Brenin Siôr oddi wrth y Frenhines mewn seremoni yng Nghastell Windsor ddoe (12 Gorffennaf).
Derbyniodd Ami a Judith, ein cyn Brif Swyddog Gweithredol, y wobr ar ran y tîm cyfan o weithwyr GIG Cymru i gydnabod eu dewrder, eu tosturi a’u medr trwy gydol pandemig Covid-19.
Roedd Tywysog Cymru yn bresennol gyda’r Frenhines ar gyfer y cyflwyniad.
Dywedodd Ami, sydd hefyd yn Is-gyrnol yng Nghronfeydd Wrth Gefn y Fyddin: “Fel rhywun sy’n gwasanaethu yn y Fyddin, rwy’n gwybod mai dim ond y gorau sy’n cael y fedal hon ac mae ein staff iechyd rhagorol yn ei llawn haeddu. Ni fyddai ein staff erioed wedi dychmygu y byddai pandemig mor ofnadwy yn digwydd yn ystod ein bywydau ni, ond fe roeson nhw eu hofnau eu hunain o’r neilltu i roi gofal rhagorol i’w cleifion a dod o hyd i atebion i’r problemau digynsail a oedd yn eu hwynebu bob dydd."