Neidio i'r prif gynnwy

Rhowch Eich Barn: Dyfodol Gwasanaethau Ysbytai Lleol

Dydd Mawrth 24 Mehefin 2025

Rydym eisiau clywed gennych chi...

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn adolygu’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu yn ein Hysbytai Cyffredinol Lleol (Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Ystrad Fawr), fel rhan o’r cam nesaf yn ein strategaeth Dyfodol Clinigol.

Ein nod yw sicrhau bod yr ysbytai hyn yn gweithio’n effeithiol ochr yn ochr ag Ysbyty Athrofaol y Faenor a’n gwasanaethau cymunedol cynyddol — gan ddarparu gofal diogel, modern a chynaliadwy mor agos at adref â phosibl.

Rydym yn lansio cyfnod ymgysylltu o wyth wythnos i roi cyfle i bawb — cleifion, gofalwyr, trigolion lleol, staff, sefydliadau partner a grwpiau cymunedol — adolygu ein cynigion a helpu i lunio dyfodol gofal.

Rydym eisiau eich barn ar:

  • Sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu’n lleol
  • Ein hegwyddorion a’n blaenoriaethau ar gyfer gofal yn y dyfodol
  • Unrhyw bryderon neu syniadau yr hoffech i ni eu hystyried

Bydd yr ymgysylltiad yn para tan ddydd Gwener 15 Awst 2025.

Darllenwch y briff llawn a rhowch eich barn drwy fynd i’n gwefan:

Cynlluniau ar gyfer Ysbyty Nevill Hall a'n hysbytai cyffredinol lleol cefnogol ar gyfer y dyfodol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan