Dydd Llun 27 Hydref 2025
Hoffwn ni glywed gennych chi…
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn adolygu'r trefniadau hirdymor ar gyfer gwasanaethau adsefydlu strôc, a gafodd eu canoli ar un safle ysbyty dros dro yn 2023. Rydym yn lansio cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd dros ddeuddeg wythnos er mwyn casglu barn pobl ar y ddarpariaeth hirdymor orau ar gyfer gwasanaethau adsefydlu strôc yng Ngwent.
Mae'r cyfnod ymgysylltu hwn yn gyfle pwysig i gleifion, gofalwyr, trigolion lleol, staff, sefydliadau partner a grwpiau cymunedol rannu eu barn, rhoi adborth llawn a helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau adsefydlu strôc yn diwallu anghenion ein poblogaeth.
Rydym yn gwahodd y cyhoedd i gymryd ychydig funudau i adolygu ein cynigion a chyfrannu eu hadborth, a fydd yn darparu gwybodaeth werthfawr a fydd yn dylanwadu ar ein gwasanaethau adsefydlu strôc yn y dyfodol. Gellir rhannu barn drwy gwblhau'r arolwg ar-lein, neu drwy fynychu un o'r sesiynau gwybodaeth i'r cyhoedd a fydd yn cael eu cynnal drwy gydol y cyfnod hwn mewn gwahanol leoliadau ardraws Gwent.
Bydd y cyfnod ymgysylltu hwn yn rhedeg tan Ddydd Gwener 30 Ionawr 2026.
Darllenwch y briff llawn, rhannwch eich barn, a gwelwch wybodaeth bellach yma: Trefniadau ar gyfer Gwasanaethau Adsefydlu Strôc yn y Dyfodol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan