Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad Cau Wedi'i Ymestyn - Dweud Eich Dweud ar Wasanaethau Fferyllfa Lleol

**Dyddiad cau wedi'i ymestyn - ffurflen adborth yn cau ar 22ain o Ragfyr 2025**

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gofyn am eich barn ar wasanaethau fferyllol yn eich ardal fel rhan o'i Asesiad o Anghenion Fferyllol (PNA).

Bob pum mlynedd, mae'n ofynnol i'r Bwrdd Iechyd gynnal PNA i adolygu a yw gwasanaethau fferylliaeth yn diwallu anghenion cymunedau lleol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar ba wasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd, ble a phryd maent ar gael, ac a oes unrhyw fylchau.

Bydd yr asesiad hefyd yn ystyried y gwasanaethau fferyllol a gynigir gan rai practisau meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig. Mae'r gwasanaethau hyn yn caniatáu i feddygon teulu gyflenwi meddyginiaethau rhagnodedig yn uniongyrchol i gleifion yn hytrach na rhoi presgripsiwn iddynt y mae angen iddynt ei gyflwyno i fferyllfa.

Mae eich adborth yn hanfodol o ran ein helpu i ddeall a oes angen gwelliannau, megis a oes angen fferyllfa newydd mewn lleoliad penodol neu a ddylai mwy o fferyllfeydd gynnig gwasanaethau penodol.

Mae'r arolwg yn ddienw, ac ni fydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei gysylltu â chi. Peidiwch â chynnwys unrhyw fanylion a allai eich adnabod chi neu unrhyw un arall. Bydd yr holl ddata personol yn cael ei drin yn unol â'n polisi preifatrwydd.

I gymryd rhan, cwblhewch yr holiadur:

Asesiad o Anghenion Fferyllol - Arolwg Cleifion

Dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd a bydd eich barn yn helpu i siapio gwasanaethau fferyllol yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes angen help arnoch i lenwi'r holiadur, e-bostiwch abb.primarycaredepartment@wales.nhs.uk gan roi "holiadur PNA" yn y llinell bwnc, neu ffoniwch 01495 241260.