9fed Medi 2026
Rydym yn ystyried creu cyfres o bodlediadau dan arweiniad ein Nyrs Endometriosis Arbenigol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Byddai'r sesiynau'n darparu gwybodaeth ddibynadwy, cyngor ymarferol ac atebion i gwestiynau cyffredin am endometriosis, gan gwmpasu pynciau megis symptomau, diagnosis, opsiynau triniaeth a'r cymorth sydd ar gael.
P'un a ydych wedi cael diagnosis o endometriosis, yn meddwl ei fod arnoch, neu'n cefnogi rhywun ag endometriosis, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cymerwch ychydig funudau i gwblhau'r arolwg hwn os gwelwch yn dda:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Podlediad Endometriosis Arolwg – Fill in form
Bydd eich adborth yn helpu i siapio cynnwys y gyfres podlediad, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y pynciau a'r cwestiynau sydd bwysicaf i bobl yr effeithir arnynt gan endometriosis.