Rydym angen eich barn!
Rydym yn cynnal astudiaeth iechyd y cyhoedd er mwyn ystyried a ellir datblygu Ap Iechyd Mislif y GIG yn y dyfodol.
Does dim ap eto, camau cynnar yw hyn o ran gwaith ymchwil. Ond rydym eisiau deall beth fyddai pobl ei eisiau a’i angen gan adnodd iechyd mislif y byddent yn ymddiried ynddo.
Mae nifer o’r apiau sydd ar gael ar hyn o bryd yn codi tâl am nodweddion allweddol neu’n rhannu data personol. Rydym eisiau gweld a allai ap arall weithio, un a fyddai’n:
✨Olrhain mislif yn ddiogel
✨Eich helpu i gofnodi symptomau megis poen, hwyliau a chwsg
✨Cynnig gwybodaeth iechyd eglur a dibynadwy
✨Diogelu eich preifatrwydd
✨Cefnogi gofal y GIG
Er mwyn gweld a fyddai’r syniad hwn yn bosibl, rydym angen eich cymorth.
➡️Llenwch ein arolwg byr os gwelwch yn dda. Bydd eich adborth yn ein helpu i siapio dyfodol cymorth iechyd mislif
Diolch am fod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn 💙